Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Addysg » Prifysgolion a cholegau » Coleg Prifysgol Caerdydd

Canlyniadau 1 i 6 allan o 7

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Ganed Alfred William Hughes (1861-1900), athro a llawfeddyg, yn Aberllefenni, ger Corris, yn fab i oruchwyliwr chwarel.  Ar ôl gadael yr ysgol, prentisiwyd ef yn ddilledydd yn Nolgellau ond dychwelodd i chwarel Aberllefenni yn glerc.  Dechreuodd ar ei yrfa feddygol gyda meddyg lleol ac fe aeth i Brifysgol Caeredin pan oedd yn 18 oed.  Graddiodd ym 1885 ac ym 1889 gwnaed ef yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (FRCS).  Ar ôl cyfnod byr yn Sir y Fflint, dychwelodd i Gaeredin lle cafodd ei benodi'n Athro yn y coleg meddygol.  Ym 1893 cafodd ei benodi'n Athro yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yna ym 1897 aeth yn Athro i King's College, Llundain.  Ymgeisiodd dros y Ceidwadwyr yn etholaeth Sir Gaernarfon ym 1895.  Yn ystod Rhyfel y Boer sefydlodd ysbyty Cymreig yn Ne Affrica a threuliodd amser yno'n arolygu'r gwaith.  Fodd bynnag, cafodd ei daro gan afiechyd ar ei ffordd adref a bu farw yn ei gartref yn Llundain ym 1900.  Cafodd ei gladdu ym mynwent Corris.
Cofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), Corris
  • Ganed Henry Richard (1812-88) yn Nhregaron, Sir Aberteifi.  Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llundain cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Merthyr Tudful ym 1868.  Roedd yn cael ei adnabod fel 'Yr Apostol Heddwch' yn rhinwedd ei waith gyda'r Gymdeithas Heddwch.  Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd y Gymdeithas ym 1848 ac yn rhinwedd ei swydd bu'n golygu papur newydd y Gymdeithas, 'Herald of Peace'.  Bu hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfres o gynadleddau heddwch pwysig ym mhrif ddinasoedd Ewrop yn ystod y cyfnod 1849-53.  

Tynnwyd y ffotograff hwn gan John Thomas ar achlysur dadorchuddio cofeb Henry Richard yn Nhregaron ar 18 Awst 1893.  Cynlluniwyd y gofeb gan Albert Toft.  Ar y plac o dan y gofgolofn y mae'r geiriau isod wedi eu cerfio'n Gymraeg ac wedyn yn Saesneg:

'Ganwyd yma yn Nhregaron addysgwyd ef i'r weinidogaeth gristnogol ac yn 1835 ordeiniwyd ef yn Llundain.  Yn 1848 apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd i'r Gymdeithas Heddwch ac enillodd fri rhyngwladol fel
Dadorchuddio cofeb Henry Richard, Tregaron, 18 Awst 1893
Myfyrwyr Coleg y Brifysgol a oedd wedi ymuno â'r fyddin, Caerdydd, tua 1914
  • Cynlluniwyd Neuadd Aberdâr gan H. W. Wills ac fe'i hadeiladwyd ym 1893 i ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr benywaidd Coleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd.  Cafodd y neuadd ei sefydlu gan Arglwyddes Aberdâr er mwyn hybu addysg ymhlith merched Cymru.
Darlun pensaernïol o Neuadd Aberdâr, Caerdydd, 1897
Coleg y Brifysgol, Parc Cathays, Caerdydd, 1923
  • Cafodd Arthur H. Trow, brodor o'r Drenewydd, Sir Drefaldwyn, ei gofrestru fel myfyriwr yn y coleg ar 16 Ebrill 1885.  Yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Cofrestr cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1884-92 [t. 74, delwedd 10 o 22]