Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf addurniadol » Sampleri

Canlyniadau 1 i 6 allan o 12

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Ffabrig garw coeth wedi'i frodio â sidanau lliw mewn pwyth croes.  Mae'r ymyl yn igam-ogam gyda blodau arddullaidd.  Mae'r pennill yn y canol wedi'i amlinellu â motiffau blodeuog, gyda motiff coeden flodeuol uwch ei ben gyda dau baun steil brodwaith edafedd mewn tirluniau.  Oddi tanodd mae motiff brodwaith edafedd o sbaniel ar glustog gyda motiffau blodeuog ar y naill ochr a'r llall, coronau a sêr gyda thorch flodeuog islaw sy'n cynnwys enw'r gwneuthurwr a'r dyddiad.

Arysgrif:
Sweet is the day of holy rest
To earthly pilgrims given
A day for which the Lord is blest
By those who live for heaven
And when this tabernacle stands
No more beneath the sky
We have in heaven not made with
Hands one for eternity
Mary Evans March 1 1848

Mesuriadau:
62 x 55 cm
Sampler a wnaed yn Aberaeron, 1848
  • Lliain garw brodiog â sidanau lliw mewn pwyth croes.  Ar yr ymyl mae llinell igam-ogam gul.

Ar y brig mae pum rhes lorweddol wedi'u gwahanu â llinellau igam-ogam sy'n cynnwys yr wyddor mewn priflythrennau a llythrennau breision a rhifolion 1 i 9 ddwywaith.  Oddi tanodd mae pennill ac arysgrif y gwneuthurwr, lleoliad a'r dyddiad gyda nifer o fotiffau fan hyn a fan draw, gan gynnwys calonnau, coronau, fflŵr-de-lis a choeden; enw'r gwneuthurwr (yn anorffenedig) yn cael ei ailadrodd ar y gwaelod.

Arysgrif:
Jane Lloyd
Aged 12
Cardigan June 10 1839
The lilies of the field
That quickly fade aw[-]
ay may well to us a lesson
yield who die as soon as
They
A B J Lloy[d]

Mesuriadau:
35.5 x 21.4 cm
Sampler (yr wyddor a phennill), a wnaed yn Aberteifi, 1839
  • Sampler fach.  Cynfas wlân garw brodiog â sidan gwyrdd mewn pwythau croes a phetryal.  Ar yr ymyl mae cadwyn gul.

Yn yr hanner uchaf mae'r wyddor mewn priflythrennau, ampersand a rhifolion 1 i 3, gyda'r wyddor mewn llythrennau bychain yn dilyn a rhifolion 1 i 16 wedi'u trefnu mewn rhesi llorweddol sydd wedi'u gwahanu â llinellau igam-ogam a syth.  Oddi tanodd mae arysgrif y gwneuthurwr, y lleoliad a'r dyddiad.

Arysgrif:
Mary Mathias
Cardigan May 4
1840

Mesuriadau:
11.5 x 10.2 cm
Sampler (yr wyddor), a wnaed yn Aberteifi, 1840
  • Ffabrig garw hardd wedi'i frodio â sidanau glas, melyn a phinc mewn pwyth croes.

Ar y brig mae pedwar band o fotiffau geometrig a llinellau tonnog; pum rhes yn cynnwys yr wyddor mewn priflythrennau a llythrennau bychain a rhifolion 1 i 20 a'r llinell wedi'u llenwi â llinellau tonnog; mae'r adran wedi'i hamlinellu â llinell afreolaidd, sy'n cynnwys Gweddi'r Arglwydd yn Saesneg gyda motiffau ar wahân ar y brig gan gynnwys coronau, calon, croes a'r geiriau 'Dukes' a 'Princes'.  Isod mae arysgrif y gwneuthurwr a'r dyddiad mewn dwy linell, gyda phennill dwy linell oddi tanodd.  Nid yw'r ffrâm yn gyfoes.

Arysgrif:
Our Father
Which art in Heaven...[continues with Lord's prayer]
Alicia Gratiana Jones her Work in the
Ten year of her age October 29 1799
O spare me that I may recover my
strength before I go hence & be no more

Mesuriadau:
55 x  33 cm
Sampler (yr wyddor, motiffau a phennill Beiblaidd), a wnaed yn Aberaeron, 1799
  • Mae tŷ Georgaidd mawr yn dominyddu'r sampler fawr hon.  Ar y naill ochr a'r llall iddo mae llinellau syth o goed gydag adar.  Ar ymyl y sampler mae patrwm mes a dail derw, ac mae cynlluniau blodau a choed eraill wedi'u gwasgaru ar eu traws.  Mae'r pennill brodiog yn darllen: 'For we know that if our earthly house of this tabernacle were dissolved we have a building of God an house not made with hands eternal in the heavens.  For we must all appear before the judgement seat of Christ that every one may receive the things done in his body according to that he hath done whether it be good or bad.'  Mae Coeden Gwybodaeth ac Adda ac Efa wedi eu brodio o dan y testun.  Mae'r sampler hefyd yn cynnwys yr arysgrif ganlynol: 'Mary Lewis / work in the 13 / year of her age / July 2, 1834'.  Mae'r geiriau 'Miss' and 'Hughes's School' wedi'u brodio ar y naill ochr a'r llall, ar waelod y sampler.  Maent wedi'u brodio mewn pwyth croes, gyda sidanau a chotymau lliw, ar liain coeth.  Mesuriadau: 58cm x 55cm.
Sampler a wnaed gan Mary Lewis, 2 Gorffennaf 1834
  • Mae canol y sampler hon wedi'i brodio gydag adeilad ysgol llwyd, mawr.  O dan yr adeilad hwn mae'r geiriau ' A Representation of the National / School, Newchurch'.  Mae pennill wedi'i frodio ar draws brig y sampler: 'As plants while tender bed which you please / And are though crooked first made straight with ease / Yet if those plants to their full stature grow / Irregular they'll break as soon as bow / So youth set right at first with ease go on / And each new task is with new pleasure done / But if neglected till they grow in years / And each fond  mother her dear darling spares / Error becomes habitual and we find / Tis then hard labour to reform the mind.'  Mae anifeiliaid a choed, ac ymyl rhedegog hefyd wedi'u brodio ar y sampler hon.  Mae'r wneuthurwaig wedi nodi'i manylion o dan yr adeilad: 'The above was worked by Ann Stott, daughter of John and / Sarah Stott Sexton of St. Nicholas Church Newchurch at the / above school in the 13 year of her age.'  Wedi'i frodio mewn pwyth croes a satin mewn sidanau lliw ar liain.  Mesuriadau: 59cm x 60cm.
Sampler a wnaed gan Ann Stott, Llannewydd, Caerfyrddin, c. 1850