Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Bwyd a choginio » Llefydd tān cegin

Canlyniadau 1 i 6 allan o 15

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Nesaf

  • Mantell simnai gerfiedig o Tudor Street, Y Fenni.  O'i mewn mae pot coginio trybedd o'r 17eg ganrif ac o'i blaen mae bachyn crochan o'r 18fed ganrif.
Lle tān o'r 17eg ganrif, Y Fenni
  • Defnyddiwyd bergwn hyd at ganol y 19eg ganrif fel modd o arbed y cogyddion yn y cartrefi mawr rhag troi'r cig ar gigwain ā llaw.  Byddai'r ci yn cael ei osod mewn olwyn fechan oedd yn gysylltiedig ā'r gigwain ac wrth iddo redeg byddai'r gigwain yn troi.

Er mwyn osgoi gorweithio'r ci gyda'r gwaith poeth ac annymunol hwn, yn aml cadwyd hwy mewn parau er mwyn iddynt weithio mewn shifftiau.  Credir mai dyma yw tarddiad y ddihareb 'daw haf i gi' (every dog has his day). 

'Whiskey' yw'r enghraifft olaf o fergi sydd wedi goroesi, er ei fod wedi'i stwffio.  Ymddengys bod y brīd wedi diflannu gyda dyfodiad peiriannau'r gegin.

Ffynhonnell:
Cunliffe, J (1991) 'The Turnspit'. Kennel Gazette, tudalennau 20-22.
"Whiskey" y Bergi, 19eg ganrif
  • Byddai'r gigwain hon sy'n dyddio o ddiwedd yr 18fed ganrif wedi'i phweru yn wreiddiol gan gi bychan yn rhedeg o'i mewn.  Byddai'r pŵer oedd y ci yn ei gynhyrchu'n cael ei ddefnyddio i bweru dyfais i droi'r cig a oedd yn coginio ar y gigwain.

Yn Amgueddfa y Fenni ceir yr enghraifft olaf o fergi, brīd a fagwyd yn arbennig i'r diben hwn.
Olwyn cigwain ar gyfer cŵn, 18fed ganrif, Coed Cernyw, Sir Fynwy
  • Uwchben y lle tān gwelir panel arfbais plastr, dyddiedig 1684.
Plas Llan, Eglwys-bach: y lle tān yn y gegin, 1954
Lle tān traddodiadol ym Mhandy, Aberllefenni, 1981
Braslun o Grāt Cegin - 'Popty Dwbl Leamington' neu 'Close Fire Range' (19eg ganrif)