Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Bwyd a choginio » Offer coginio
  • Mantell simnai gerfiedig o Tudor Street, Y Fenni.  O'i mewn mae pot coginio trybedd o'r 17eg ganrif ac o'i blaen mae bachyn crochan o'r 18fed ganrif.
Lle tân o'r 17eg ganrif, Y Fenni
  • Defnyddiwyd bergwn hyd at ganol y 19eg ganrif fel modd o arbed y cogyddion yn y cartrefi mawr rhag troi'r cig ar gigwain â llaw.  Byddai'r ci yn cael ei osod mewn olwyn fechan oedd yn gysylltiedig â'r gigwain ac wrth iddo redeg byddai'r gigwain yn troi.

Er mwyn osgoi gorweithio'r ci gyda'r gwaith poeth ac annymunol hwn, yn aml cadwyd hwy mewn parau er mwyn iddynt weithio mewn shifftiau.  Credir mai dyma yw tarddiad y ddihareb 'daw haf i gi' (every dog has his day). 

'Whiskey' yw'r enghraifft olaf o fergi sydd wedi goroesi, er ei fod wedi'i stwffio.  Ymddengys bod y brîd wedi diflannu gyda dyfodiad peiriannau'r gegin.

Ffynhonnell:
Cunliffe, J (1991) 'The Turnspit'. Kennel Gazette, tudalennau 20-22.
"Whiskey" y Bergi, 19eg ganrif
  • Byddai'r gigwain hon sy'n dyddio o ddiwedd yr 18fed ganrif wedi'i phweru yn wreiddiol gan gi bychan yn rhedeg o'i mewn.  Byddai'r pŵer oedd y ci yn ei gynhyrchu'n cael ei ddefnyddio i bweru dyfais i droi'r cig a oedd yn coginio ar y gigwain.

Yn Amgueddfa y Fenni ceir yr enghraifft olaf o fergi, brîd a fagwyd yn arbennig i'r diben hwn.
Olwyn cigwain ar gyfer cŵn, 18fed ganrif, Coed Cernyw, Sir Fynwy
  • Daeth archeolegwyr o hyd i'r ddau botyn hyn (mae'r un bach y tu mewn i'r un mwy), ar safle tŷ yn Stryd Mynwy, Mynwy.  Dyma'r enghraifft gyntaf i'w darganfod yng ngogledd Ewrop o ddull coginio sy'n defnyddio calch byw a dŵr.

Byddai'r bwyd a seliwyd yn y potyn mewnol yn cael ei goginio yn y gwres a gynhyrchid wrth i'r dŵr a'r calch byw gymysgu yn y gwagle rhwng y ddau botyn.

Disgrifiwyd y dull araf hwn o goginio gan Henry o'r Grysmwnt (Dug Caerhirfryn ac Arglwydd Mynwy), yn ei lyfr defosiynol 'Le Livre de Seyntz Medecines' a gyhoeddwyd ym 1354.  Yn ôl Henry, byddai gan ddyn ddigon o amser i gerdded rhwng 'pum a saith milltir Ffrengig' cyn y byddai ei fwyd wedi ei goginio.

Ffynhonnell:
Paneli arddangos, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson
Pot coginio canoloesol wedi'i bweru â chalch [delwedd 1 o 2]
  • Rhestr o'r llestri a'r offer cegin a oedd yn cael eu cadw mewn cist ym Mhlas Boduan, ger Nefyn, Sir Gaernarfon, tua'r flwyddyn 1824.
Rhestr o'r llestri mewn cist ym Mhlas Boduan, tua'r flwyddyn 1824
  • Mae'r mowldiau jeli copr hyn yn rhan o'r Batterie de Cuisine o Gastell Dinefwr, Llandeilo, Caerfyrddin.
Mowldiau jeli copr, Plas Dinefwr, canol y 19eg ganrif