Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Dodrefn a chreiriau » Pwcedi

Canlyniadau 1 i 5 allan o 5

Tudalen 1

Bwced drochion o Oes Victoria, Llanharan, 19eg ganrif
  • Cafwyd hyd i'r bwced hon ar waun fawn yn Nhy'r Dewin, Bryncir, Sir Gaernarfon, ym 1881.  Mae erwydd y bwced wedi eu gwneud o bren ywen ac fe'u hamgylchynir gan dri cylch efydd.  Mae nifer o symbolau paganaidd wedi eu cerfio ar y tu mewn a'r tu allan i'r bwced.
Pwced erwydd yn dyddio o'r 5-6ed ganrif
  • Catalog o ddiwedd y 19eg ganrif o siop yr Haearnwerthwyr.
Tudalen o gatalog Robert James Cyf, Dodrefn a Haearnwerthwyr Cyffredinol, Penarth
  • Pwced bren a wnaed o erwydd derw, gyda dolen haearn.  Amgylchynwyd y bwced gan frigau helyg a phegiau cyfoes.

Credir mai'r Tywysog Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) oedd yn gyfrifol am godi Castell y Bere, tua'r flwyddyn 1221.  Dim ond am ychydig ddegawdau y bu'r castell yn nwylo'r Cymry oherwydd ym mis Ebrill 1283 ildiodd y castell i'r Saeson, y castell olaf i gael ei drechu gan Edward I yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Cymry.  Yn dilyn hyn, cafodd y castell ei atgyweirio i raddau a sefydlwyd rhyw fath o anheddiad ger troed y bryn creigiog.  Bu un ymgais arall i adennill y castell ym 1294, pan arweinodd Madog ap Llywelyn wrthryfel byrhoedlog yn erbyn y Saeson.  Trechwyd Madog y flwyddyn ganlynol a daeth diwedd ar oes fer Castell y Bere.  Gadawodd y Saeson yr anheddiad gerllaw ac ni ddefnyddiwyd y castell fyth wedyn.  

Ffynhonnell:
http://www.castlewales.com/cybere.html
Pwced ganoloesol o Gastell y Bere, Llanfihangel-y-Pennant, 13eg ganrif
  • Pen ych efydd bach.  Dyma fownt handlen a fyddai'n wreiddiol ynghlwm wrth bwced bren.  Yn ôl yr anifail a gynrychiolir, gallwn ddyfalu mai cunnog laeth oedd hon.  Roedd y pen ych yn swyn lwcus a oedd yn annog gwartheg i gynhyrchu mwy o laeth.  Yn aml, mae teirw a gwartheg i'w gweld mewn celf Geltaidd o'r cyfnod hwn a chynharach, lle maent yn cynrychioli cryfder a ffrwythlondeb.  Mae'r enghraifft hon yn gymysgedd diddorol o'r traddodiad Celtaidd hŷn a'r steil newydd Rufeinig: mae'r ffroenau agored a'r llygaid lensaidd yn nodweddiadol Geltaidd, ond mae'r addurn ar y clustennau cysylltiol yn edrych yn Rhufeinig iawn.  Daw o gladdedigaeth gyfoethog, pennaeth brodorol yn ôl pob tebyg, a ddarganfuwyd yn y Trallwng ym 1959.
Mownt pwced ar ffurf pen ych a gladdwyd mewn bedd yn Y Trallwng, c. 150-200 OC