Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gweithgareddau yn y cartref » Gwnïo

Canlyniadau 1 i 5 allan o 5

Tudalen 1

Nodwydd a wnaed o asgwrn a ddarganfuwyd yn ogof Pant-y-wennol, Llandudno
  • Llythyr a ysgrifennwyd ym 1915 gan Gwladys Ellis Hughes, merch 14 oed o Langwm, ger Corwen, at ei mam, Maggie Ellis Hughes, a oedd yn sâl yn yr ysbyty yn Lerpwl ar y pryd.  Yn sgil afiechyd ei mam, bu'n rhaid i Gwladys ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau ychwanegol o amgylch y cartref, gan gynnwys gofalu am ei thad a'i brodyr a chwiorydd.  Yn ogystal, cymerodd swydd ei mam fel rheolwraig Swyddfa Bost Llangwm.  Yn ei llythyr, dywed ei bod wedi 'trwsio wyth bâr o hosanau ag yr wyf yn mynd i ysmwythio 30 o golerau i Dad, nid oes ganddo fo yrun at y Sul.  O mi rwyf yn gwneud yn first Class'.  Mae ei chwiorydd hefyd wedi bod yn cynorthwyo o amgylch y tŷ a dywed Gwladys eu bod yn gweithio'n galed iawn ac yn tynnu eu pwysau.  Yn anffodus, cafwyd diweddglo trist i'r hanes hwn oherwydd bu farw mam Gwladys yn yr ysbyty yn Lerpwl yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Llythyr oddi wrth Gwladys Ellis Hughes (14 oed) o Langwm, at ei mam yn yr ysbyty yn Lerpwl, [1915] [delwedd 1 o 2]
  • Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5.  Mae'r ffrog las, gyda'r gwahanol ategolion (het, menig, bag llaw, esgidiau) oll yn dangos effaith cyfyngiadau'r rhyfel - ni fyddai angen llawer o ddefnydd i wneud y ffrog fer hon.
Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5
  • Llun ffasiynau o 'Weldon's Ladies' Journal, Portfolio of Fashions', c. 1935.  Roedd yr holl batrymau ar gyfer y ffrogiau hyn am ddim yn y cylchgrawn.
Llun ffasiynau o 'Weldon's Ladies Journal, Portfolio of Fashions', c. 1935
Llun ffasiynau o 'Coming Fashions', Mawrth 1930