Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gwisg ac addurniadau personol » Dillad
  • Mae'r catalog hwn yn rhestru'r math o ddillad ac offer angenrheidiol ar gyfer prentisiad ar fwrdd llong yr HMS Conway.
Cartref Morwyr Lerpwl: Rhestr Ddillad Prentisiaid [delwedd 1 o 4]
  • Mae 'Falling Stars' wedi'i gwneud o fiscos wedi'i droelli ag edau lwrecs aur, wedi'i addurno â disgiau ffoiledig aur 18 carat wedi'u torri â llaw ynghyd â secwinau.  Fe'i cynhyrchwyd ar gyfer Casgliad Gwanwyn / Haf 2000 ac mae Kate Moss, Kylie Minogue a Joely Richardson wedi'i gwisgo.
'Falling Stars', gan Julien Macdonald
  • Cafodd y sgarff wlân goch hon ei gwehyddu yn Ffatri Gwenffrwd a'i chyflwyno i John Jenkins Y Boat House, Llanofer ym 1889.  Dyma un o'r sgarffiau a gyflwynwyd i ysgolheigion Ysgol Sul yr Eglwys gan Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer, 1802-96).
Sgarff wlanen coch a gyflwynwyd gan Arglwyddes Llanofer i aelodau Ysgol Sul yr Eglwys, 1889
  • Cyflwynodd Arglwyddes Llanofer yr eitemau hyn i drigolion Llanofer, Llanellen, y Goytre a Mamhilad ym 1879.  Ymhlith yr eitemau sy'n cael eu rhestru mae crysau, peisiau, neisiad (hancesi), ffedogau, gynau (gwn), cynfasau a chwrlidau.
Detholiad o'r rhestr o denantiaid a dderbyniodd 'wisgoedd Cymreig' gan Arglwyddes Llanofer, 1879 [tudalen 1 o 3]
  • Mrs Jenkins o Fferm Little Blackhill, Craswell a wnaeth smoc y gŵr hwn.
Smoc ffarmwr o'r 19eg ganrif, Llanfeuno, Lloegr
  • Roedd gwneuthurwyr capiau yn gweithio ym Mynwy mor gynnar â 1449, ond yn ystod Oes y Tuduriad gwelwyd y diwydiant yn ffynnu yn y dref.  Mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw 'Cap Mynwy' i'w ganfod mewn llythyr sy'n dyddio o 1576.  Erbyn y cyfnod hwn roedd y diwydiant ar ei anterth ym Mynwy, ond yn sgil deddfwriaeth newydd a oedd yn noddi'r diwydiant drwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd nifer o drefi eraill hefyd wedi dechrau cynhyrchu capiau gwau.  Roedd capiau Mynwy yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o wisg milwyr a morwyr yr ail ganrif ar bymtheg, er nad oeddynt bellach yn cael eu cynhyrchu ym Mynwy.

Daeth capiau Mynwy mor gyfarwydd a chyffredin fel iddynt gael eu cymryd yn ganiataol.  Roedd pawb yn gwybod yn union beth oedd 'cap Mynwy', a phrin felly yw'r disgrifiadau ysgrifenedig o'r cap.  Ar sail y cyfeiriadau prin hynny, gwyddys bod y capiau wedi cael eu gwau a'u bod yn grwn, o liw brown, a gyda 'botwm' ar y corun.  

Credir bod yr het a ddangosir yma yn 'gap Mynwy' gwreiddiol, yr unig enghraifft sydd wedi goroesi, sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell: 
Paneli arddangos, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson.
Cap Mynwy, 16eg ganrif