Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gwisg ac addurniadau personol » Hosanau

Canlyniadau 1 i 2 allan o 2

Tudalen 1

  • Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd y diwydiant gwau hosanau yn nodwedd bwysig o'r economi wledig mewn sawl rhan o Gymru.  Roedd nifer o deuluoedd yr ardaloedd gwledig yn gwbl ddibynnol ar y diwydiant hwn er mwyn ennill bywoliaeth yn ystod cyfnodau llwm.  Ystyrid tref y Bala yn ganolfan y diwydiant gwau hosanau yn ystod y cyfnod hwn gan fod cynifer o ddynion, merched a phlant y dref yn saneuwyr profiadol a chrefftus.  Erbyn diwedd y 19eg ganrif, fodd bynnag, roedd y diwydiant cartref hwn wedi edwinio wrth i hosanau gael eu cynhyrchu fwyfwy ar beiriannau.  Cafodd y ffotograff hwn o Edward Lloyd, Tŷ Brics, saneuwr olaf tref y Bala, ei dynnu yn ystod yr 1880au.
Edward Lloyd, Tŷ Brics, saneuwr olaf tref Y Bala, tua'r flwyddyn 1880
  • Cafodd yr hosanau hyn eu gweu gan Eliza Lewis, Llannarth, Sir Aberteifi, ar gyfer eu gwisgo ar ôl ei marwolaeth.
Pâr o hosanau, gyda'r arysgrif 'Eliza Lewis', gwnaed tua 1850