Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Plentyndod a gofal plant » Dodrefn plant

Canlyniadau 1 i 6 allan o 11

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Golygfa fewnol o'r byngalo parod alwminiwm 'B2' yn Amgueddfa Werin Cymru.  Cynlluniwyd a datblygwyd y tai parod er mwyn darparu tai yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac roeddynt yn llwyddiant mawr o safbwynt cynllunio gan eu bod yn arbed lle.  Roedd dwy ystafell wely ymhob byngalo gyda chypyrddau gosod, ystafell fyw, cyntedd, cegin osod ac ystafell ymolchi.  Cynhyrchwyd pedwar math o fyngalo, pob un yn dilyn yr un cynllun mwy neu lai, ond wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau.  Cafodd y byngalos alwminiwm, o'r math sydd i'w gweld yn yr Amgueddfa, eu gwneud mewn ffatrïoedd a fu gynt yn cynhyrchu awyrennau.  Roedd y ffatri yn medru cynhyrchu un byngalo bob deuddeng munud.  Roedd y byngalo B2 wedi ei wneud o bedair rhan a fyddai'n cael eu gosod at ei gilydd ymlaen llaw, ynghyd â'r holl waith trydanol, y plymwaith a phibellau d?r a nwy.  Daeth y byngalo parod sydd i'w weld yn yr Amgueddfa o Gabalfa, Caerdydd, yn wreiddiol ac fe'i hadeiladwyd rhwng 1947-8.    

Mae'r tŷ wedi ei ddodrefnu i adlewyrchu'r flwyddyn 1950 ac mae'n cynnwys rhai darnau o ddodrefn 'Utility'.  Roedd hwn yn fath syml o ddodrefn a wnaed o bren haenog yn bennaf, ac fe gafodd ei gynhyrchu ym Mhrydain yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd prinder pren.  Roedd galw mawr am ddodrefn ar gyfer y bobl a oedd wedi colli eu tai yn y bomio, a'r cyplau ifanc a oedd yn awyddus i sefydlu cartref am y tro cyntaf.  Byddai'r rheini a oedd yn gymwys yn derbyn cwponau neu 'unedau' er mwyn archebu'r dodrefn drwy gatalog.  Roedd yn rhaid i deuluoedd yr oes wneud y gorau o'r hyn a oedd ar gael iddynt a byddai rhai darnau o ddodrefn wedi cael eu prynu'n ail-law neu wedi cael eu trosglwyddo gan gyfeillion neu aelodau o'r teulu.

Roedd y tŷ parod yn cael ei ystyried gan nifer yn 'baradwys' i'r wraig tŷ, gan fod ganddo gymaint o elfennau newydd a digon o le i gadw pethau.  Roedd y gegin osod yn cynnwys dŵr poeth ac oer, popty (nwy neu drydan), 'copr' ar gyfer golchi dillad, yn ogystal â rhewgell osodedig.  Un nodwedd boblogaidd arall oedd yr ystafell ymolchi osodedig gyda'i rheilen dyweli poeth - dyma ystafell gynhesaf y tŷ yn aml iawn!  Nid yw'n fawr o syndod felly bod eu perchnogion yn cyfeirio at y byngalos B2 fel 'palasau tun'
Ystafell Wely Tŷ Parod, Amgueddfa Werin Cymru, c. 1950
  • Roedd y gadair hon yn arfer bod yn berchen i Morris, 'dyn tun' Trefaldwyn, a chredir iddi gael ei gwneud yn y dref.
Cadair 'potyn' ar gyfer plentyn, dechrau'r 19eg ganrif
  • Mae'r gadair uchel hon yn dyddio o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ac mae'n enghraifft dda o ddodrefnyn plentyn o'r cyfnod hwnnw.  Mae'r llythrennau GN a'r dyddiad 1669 wedi eu hysgythru ar banel ar gefn y gadair - roedd y gadair yn perthyn i Gruffydd Nannau, y pedwerydd i gario'r enw hwnnw a gŵr a aned yn fuan cyn 1669.  Bu farw yn ŵr dibriod a diblant ym 1689, sef y flwyddyn y cafodd ei ddyrchafu'n Uchel Siryf Sir Feirionnydd.
Cadair uchel y teulu Nannau, Llanfachreth, 1669
  • Defnyddiwyd fframiau cerdded gan fabanod a phlant o'r oesoedd canol ymlaen, ond mae'r enghreifftiau sydd wedi goroesi yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Cafodd nifer o gynlluniau gwahanol eu cynhyrchu, ond mae'r enghraifft sgwâr hon yn syml iawn gyda cholyn ar y rhan uchaf.  Mae'r ffrâm cerdded hwn yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe ddaw o Goed-duon, Sir Fynwy.
Ffrâm gerdded, Coed-duon, 19eg ganrif
  • Mae'r crud anghyffredin hwn wedi cael ei baentio'n las ar y tu mewn.  Cafodd ei wneud gan John Jones, saer o Genarth, Sir Aberteifi.
Crud o Genarth, 19eg ganrif
  • Mae'r gadair siglo a 'chommode' hon, a wnaed ar gyfer plentyn, i'w gweld yma yn ei chyflwr gwreiddiol.  Cafodd y gadair ei gwneud o bren masaren a mahogani ac mae'n cynnwys hambwrdd wedi ei siapio sydd wedi ei gysylltu â'r breichiau gyda chareiau lledr.  Mae'r sedd yn cynnwys cilfach ar gyfer y potyn a thorrwyd twll yn y cefn i greu dolen er mwy cario'r gadair.
Cadair siglo plentyn, 18fed ganrif