Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Arddangosfeydd

Canlyniadau 1 i 2 allan o 2

Tudalen 1

  • Tynnwyd y ffotograff gan William Booth.

Cafodd y syniad gwreiddiol i gynnal arddangosfa gelfyddydol a diwydiannol ei gynnig gan Bwyllgor Llyfrgell Rydd Bwrdeistref Caerdydd.  Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol yn cynnwys pobl gyhoeddus, pobl fusnes a diwydianwyr a oedd yn awyddus i hybu adnoddau a diwydiannau lleol Caerdydd.  Rhoddodd Ardalydd Biwt ganiatād i gynnal yr arddangosfa ym Mharc Cathays.  Cafodd y brif neuadd arddangos ei chynllunio gan y pensaer lleol Edwin Seward, ac roedd yn cynnwys eitemau yn amrywio o  beiriannau i enghreifftiau o waith celf gain.  Y tu allan i'r brif neuadd ar y maes roedd digonedd o bethau i'w gweld, gan gynnwys camlas a llyn ar gyfer arddangosfa forwrol, modelau o laethdy, ffatri fisgedi a chartref Shakespeare.  Roedd y cyfan yn un sioe anhygoel i'r synhwyrau, a chynhaliwyd arddangosfeydd celf, cyngherddau, sioeau awyr agored, a basar Indiaidd egsotig.  Roedd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth miliwn o bobl ymweld ā hi. 

Ffynhonnell:
Archifdy Morgannwg - http://www.glamro.gov.uk/check/Building%20of%20a%20Capital%202/A_Education.html
Arddangosfa Diwydiant a Chelf Gain Caerdydd, 1896
  • Cafodd y syniad gwreiddiol i gynnal arddangosfa gelfyddydol a diwydiannol ei gynnig gan Bwyllgor Llyfrgell Rydd Bwrdeistref Caerdydd.  Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol yn cynnwys pobl gyhoeddus, pobl fusnes a diwydianwyr a oedd yn awyddus i hybu adnoddau a diwydiannau lleol Caerdydd.  Rhoddodd Ardalydd Biwt ganiatād i gynnal yr arddangosfa ym Mharc Cathays.  Cafodd y brif neuadd arddangos ei chynllunio gan y pensaer lleol Edwin Seward, ac roedd yn cynnwys eitemau yn amrywio o  beiriannau i enghreifftiau o waith celf gain.  Y tu allan i'r brif neuadd ar y maes roedd digonedd o bethau i'w gweld, gan gynnwys camlas a llyn ar gyfer arddangosfa forwrol, modelau o laethdy, ffatri fisgedi a chartref Shakespeare.  Roedd y cyfan yn un sioe anhygoel i'r synhwyrau, a chynhaliwyd arddangosfeydd celf, cyngherddau, sioeau awyr agored, a basar Indiaidd egsotig.  Roedd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth miliwn o bobl ymweld ā hi. 

Ffynhonnell: Archifdy Morgannwg http://www.glamro.gov.uk/check/Building%20of%20a%20Capital%202/A_Education.html
Toriad papur newydd - 'Front View, Cardiff Exhibition, 1896'