Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Cartwnau a gwawdluniau
  • Mae David Broome yn bencampwr y byd mewn neidio ceffylau, ac mae'n cadw ei geffylau yn ei ystablau ger Cas-gwent.  Enillodd bencampwriaeth Ewrop ym 1961, 1967 ac 1969, medalau efydd yng Ngemau Olympaidd 1960 ac 1968, a phencampwriaeth y byd ym 1970.  Trodd yn broffesiynol ym 1973 a pharhaodd i farchogaeth drwy'r 1980au a'r 1990au.
David Broome gan Dorrien
  • Dysgodd David Llewelyn i yrru ar y traciau o amgylch ei fferm ar fynyddoedd y Preseli.  Aeth ymlaen i fod yn un o yrwyr rali gorau Cymru ac ym 1987 ac 1988, enillodd ddau deitl Pencampwriaeth Rali Prydain yn olynol.
David Llewellyn gan Dorrien
  • Roedd John Charles (1931-2004) yn chwaraewr amryddawn heb ei ail.  Roedd yn gyffyrddus yn chwarae yn safle'r hanerwr canol neu'r canolwr blaen a gallai chwarae hefyd yn safle'r cefnwr neu yng nghanol cae os oedd angen.  Mae'r ffaith iddo lwyddodd i dorri record sgorio clwb Leeds Unedig gyda 42 o oliau mewn un tymor, yn ystod cyfnod pan oedd yn ymddangos fel hanerwr canol mewn gêmau rhyngwladol dros Gymru, yn brawf o'i ddoniau amrywiol.

Ym mis Awst 1957, arwyddodd Charles gytundeb â Juventus am £65,000 - tâl trosglwyddo uchaf erioed am chwaraewr o Brydain. Ef oedd y chwaraewr cyntaf o Brydain i gyrraedd y safon ym myd pêl-droed yr Eidal ac ef mae'n debyg yw'r allforyn mwyaf llwyddiannus o'r Cynghrair Pêl-droed i Serie A. Yn ystod y pum mlynedd y bu Charles yn chwarae i Juventus, mi wnaethant ennill y Pencampwriaeth Serie A tair gwaith a Chwpan yr Eidal dwywaith.
Y chwaraewr pêl-droed John Charles gan Dorrien
  • Roedd y gwibiwr Ron Davies yn ei anterth yn ystod y 1960au.  Bu'n gapten ar garfan Prydain yng Ngemau Olympaidd 1968 ym Mecsico ac arweiniodd Gymru yng Ngemau'r Ymerodraeth yn Jamaica.
Ron Jones gan Dorrien
  • Ganed Ian Rush yn Llanelwy a chwaraeodd ei gêm broffesiynol cyntaf dros dref Ipswich ym 1980.  Yn ystod ei ddau gyfnod gyda Lerpwl fe sgoriodd 346 o oliau mewn 660 o ymddangosiadau cystadleuol.

Enillodd 73 o gapiau dros Gymru ac mae'n siŵr mai ei gôl enwocaf oedd yr un a arweiniodd at fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn yr Almaen ym Mharc yr Arfau Caerdydd yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop ym 1991.
Ian Rush gan Dorrien
  • Ganed Mark Hughes yn Wrecsam a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Fanceinion Unedig ym mis Tachwedd 1983.  Enillodd fedal Cwpan yr FA gyda'r clwb ym 1985 a dyfarnwyd gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn iddo yn ystod yr un tymor gan y Gymdeithas Bêl-droed Broffesiynol.

Sefydlodd Hughes ei hun fel chwaraewyr rhyngwladol dros Gymru ac enillodd 72 o gapiau dros ei wlad.  Wedi treulio blwyddyn yn gapten ar ei wlad, trosglwyddwyd cyfrifoldebau'r hyfforddwr iddo wedi ymadawiad Bobby Gould.
Mark Hughes gan Dorrien