Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Cerfiadau cerrig
  • Mae'r olygfa hon o Farchogion yn brwydro wedi'i cherfio yn Ysgol Romanésg Henffordd.
Panel o garreg cerfiedig yn dangos marchogion yn brwydro, Trefynwy
  • Mae'r ffotograff hwn yn gopi o gerfiad gwreiddiol sy'n llechu o dan droed dde delw Richard Herbert of Ewais - ŵyr William a Gwladus.  Bu fawr ym 1510 a saif ei feddrod ysblennydd yn erbyn wal ddeheuol Capel Herbert yn Eglwys St Mary's Priory, y Fenni.

Darganfuwyd yr engrafiad pan dynnwyd y beddrod i lawr er mwyn gwneud gwaith atgyweirio.  Roedd wedi'i oechuddio ers dros 500 mlynedd.  Gan fod y beddrod wedi'i atgyweirio nid yw'r gwreiddiol i'w weld bellach.  Paderwr yw unigolyn sy'n gyfrifol am weddïo dros eneidiau yr ymadawedig.

Ffynhonnell:
Testun arddangos, Amgueddfa y Fenni.
Atgynhyrchiad o baderwr alabaster, y Fenni, 1510
  • Darganfuwyd y garreg odidog ac anferth hon ym Mryn Celli Ddu, Sir Fôn.  Fe'i claddwyd yn fwriadol mewn twll ynghanol cylch o gerrig, a seliwyd y twll wedi hynny drwy adeiladu beddrod mawr dros ei ben.  Cyn iddo gael ei guddio, honnir mai ar ei thraed yr oedd y garreg hon i fod i gael ei gweld, fel ag y mae yn y llun hwn.

Mae'r patrymau troellog ar y garreg yn debyg iawn i'r rheiny a ysgythrwyd ar waliau beddrodau a ddarganfuwyd yn ardal Môr yr Iwerydd, sy'n awgrymu bod y rhanbarth cyfan yn mwynhau diwylliant cyffredin.
Carreg addurnedig a wnaethpwyd gan ffermwyr cyntaf Cymru, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl
  • Mae'r ysgythriad ar y garreg hon, sydd tua 11cm o hyd, yn debyg iawn i fagl bysgod ac mae'n bosibl ei bod wedi'i darlunio yma ar bwrpas.  Roedd pysgota yn Afon Clwyd, ger y fan lle y darganfuwyd y garreg hon, yn ffynhonnell bwysig o fwyd ar gyfer y bobl Mesolithig a oedd yn byw yn yr ardal.
Carreg gron addurnedig, tua 9,000 mlwydd oed
Carreg gron addurnedig, llai na 5cm o hyd, tua 9,000 mlwydd oed
  • Mae'r garreg gron hon, sy'n llai na 5cm o hyd, wedi'i ysgythru ar y pedair ochr gyda motiff tebyg i goeden.  Fe'i darganfuwyd yn Rhuddlan, Sir Fflint
Carreg gron addurnedig, tua 9,000 mlwydd oed