Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Cofgolofnau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 21

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Tudalen 4

Nesaf

  • Gwelir yr Arglwydd Rhaglan yma yn dadorchuddio Cofeb Rolls yn Agincourt Square ar 19 Hydref 1911.  Cynlluniwyd y gofeb gan y cerflunydd William Goscombe John.
Dadorchuddio Cofeb Rolls ar Sgwâr Agincourt, Trefynwy, 1911
Sgwâr Agincourt, Trefynwy, gyda cherflun o Charles Rolls, tua'r flwyddyn 1912
  • Crëwyd y ffiguryn hwn o Richard Trevithick yn dal model o'i gerbyd ffordd 'Camborne' fel paratoad ar gyfer codi cofeb llawn faint i'r peiriannydd ym Merthyr Tudful.
Cerflun bach o Richard Trevithick, arloeswr locomotifau
  • Cafodd y cerflun hwn o'r Parchedig Thomas Charles (1755-1814) ei gerfio gan William Davies (Mynorydd) a'i ddadorchuddio ym 1872 y tu allan i gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref y Bala, lle'r ymsefydlodd Charles ym 1783.  Thomas Charles oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yng Nghymru.  Sefydlodd nifer o ysgolion Sul cylchynol a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu'r Gymdeithas Feiblau ym 1804.  Ef oedd yn gyfrifol am olygu Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas honno ac erbyn ei farwolaeth ym 1814, amcangyfrifir iddo gyhoeddi a dosbarthu tua 320,000 o lyfrau ymhlith ei gyd-Gymry.
Cofgolofn y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), Y Bala
  • Griffith Rhys Jones (1834-97) neu 'Caradog' fel yr oedd yn fwyaf adnabyddus, oedd arweinydd y Côr Mawr enwog yn rhifo tua 460 a enillodd y wobr gyntaf ddwywaith yng nghystadlaethau corawl y Plas Grisial, Llundain, yn y 1870au.   W. Goscombe John oedd yn gyfrifol am gynllunio'r cerflun hwn.  Dadorchuddiwyd y cerflun gan Arglwydd Aberdâr ar 10 Gorffennaf 1920.
Cerflun Griffith Rhys Jones (Caradog, 1834-97), Sgwâr Victoria, Aberdâr
  • Griffith Rhys Jones (1834-97) neu 'Caradog' fel yr oedd yn fwyaf adnabyddus, oedd arweinydd y Côr Mawr enwog yn rhifo tua 460 a enillodd y wobr gyntaf ddwywaith yng nghystadlaethau corawl y Plas Grisial, Llundain, yn y 1870au.   W. Goscombe John oedd yn gyfrifol am gynllunio'r cerflun hwn a ddadorchuddiwyd gan Arglwydd Aberdâr ar 10 Gorffennaf 1920.
Dadorchuddio cerflun 'Caradog', Sgwâr Victoria, Aberdâr, 20 Gorffennaf 1920