Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Griffith, Moses (1749-1819)

Canlyniadau 1 i 6 allan o 8

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

'Nercwys Hall as built in 1665' gan Moses Griffith, 1777 (dyfrlliw)
  • Dyma gopi personol Thomas Pennant o'i gyfrol 'History of the Parishes of Whiteford and Holywell' (1796).  Mae'r copi hwn yn cynnwys nifer o ddarluniau ychwanegol, ac ychwanegwyd rhai ohonynt ar ôl marwolaeth yr awdur gan ei fab, David Pennant.  Cafodd nifer o'r darluniau eu paentio gan yr artist Moses Griffith (1747-1819).  

Dangosir ddetholiad o'r darluniau ychwanegol ar y tudalennau sy'n dilyn.
Thomas Pennant, 'A History of the Parishes of Whiteford and Holywell' (1796) [clawr, delwedd 1 o 50]
  • Pan oedd yn ddwy ar hugain oed aeth Moses Griffiths i weithio at Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r hynafiaethydd ac etifedd Downing yn Sir Fflint, ble y bu hyd at farwolaeth Pennant ym 1798. Ychydig iawn a wyddys am Griffith, er bod llawer o'r lluniau dyfrlliw a beintiodd i Pennant wedi goroesi ac ysgythrwyd rhai i ddarlunio llyfrau Pennant.

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'Capel Curig' gan Moses Griffiths, 1806 (dyfrlliw)
  • Mae'r engrafiad lliw hwn o Gastell Rhuddlan gan Moses Griffith yn ymddangos ar wynebddalen y gyfrol 'A Journey to Snowdon' gan Thomas Pennant (1781).  Cyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o'r gyfres 'A Tour in Wales'.  Argraffwyd deg copi mawr o'r gyfrol 'A Journey to Snowdon', pob un yn cynnwys darluniau ychwanegol.  Dim ond tri copi sydd wedi goroesi.  Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o engrafiadau lliw gan Moses Griffith (1747-1819) a lluniau dyfrlliw ychwanegol gan J. Harris (m. 1834).
Thomas Pennant, 'The Journey to Snowdon' (London, 1781), wynebddalen [delwedd 1 o 22]
  • Engrafiad lliw o Gastell Dinbych gan Moses Griffith.  Mae Thomas Pennant yn disgrifio'r castell fel a ganlyn (tt. 40-1):

'The castle crowns the summit of the hill, one side of which is quite precipitous.  The entrance is very magnificent, beneath a gothic arch, over which is the statue of Henry Lacy, sitting in stately flowing robes.  On each side of the gate-way stood a large octagonal tower.  The breaches in it are vast and awful: they serve to discover the antient manner of building: a double wall appears to have been built, with a great vacancy between, into which was poured all sorts of rubbish, stone, and hot mortar, which time consolidated to a stony hardness.'
Thomas Pennant, 'The Journey to Snowdon' (London, 1781), Llun 1 [delwedd 8 o 22]
  • Engrafiad lliw, 'View from Tommen y Bala', gan Moses Griffith.  Mae Thomas Pennant yn digrifio'r olygfa fel a ganlyn (tt. 76-7):

'Close to the south-east of the town, is a great artificial mount, called Tommen y Bala, in the summer time usually covered in a picturesque manner with knitters, of both sexes, and all ages.  From the summit is a fine view of 'Llyn-tegid' and the adjacent mountains.  On the right appear the two 'Arennigs', 'Vawr' and 'Vach'; beyond the farther end, soar the lofty 'Arans', with their two heads 'Aran Mowddwy' and 'Penllyn'; and beyond all, the great 'Cader Idris' closes the view.'
Thomas Pennant, 'The Journey to Snowdon' (London, 1781), Llun 2 [delwedd 9 o 22]