Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Hughes, Hugh (1790-1863)

Canlyniadau 1 i 4 allan o 4

Tudalen 1

  • Cafodd y llun hwn o Landudno ei baentio gan R. Green, Hendre-waelod, ym 1852, ychydig flynyddoedd yn unig cyn i'r dref cael ei datblygu'n gyrchfan gwyliau Fictorianaidd.  Y ffermdy ym mlaen y darlun yw Pwllygwichiaid, sef man geni yr arlunydd Hugh Hughes (1790-1863).
'Llandudno' gan R. Green, Hendre-waelod, 1852 (dyfrlliw)
  • Mary Jones (Lloyd cyn priodi) oedd trydedd gwraig y Parchedig Thomas Jones, Dinbych (1756-1820), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.  Tynnodd Hugh Hughes lun tebyg o'i gŵr - peintiwyd y ddau bortread ar ifori.
Mân-ddarlun dyfrlliw o Mary Jones gan Hugh Hughes, tua'r flwyddyn 1812
  • Y Parchedig Thomas Jones, Dinbych (1756-1820), awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.  Tynnodd Hugh Hughes lun tebyg o'i wraig, Mary Lloyd - peintiwyd y ddau bortread ar ifori.
Mân-ddarlun dyfrlliw o'r Parchedig Thomas Jones, Dinbych, gan Hugh Hughes, tua'r flwyddyn 1812
  • Tybir bod y panorama anarferol hwn o olygfa arfordirol yn cynrychioli arfordir gogleddol Ynys Môn. Ganed Hugh Hughes (1790-1863) yn Llandudno a symudodd i Lerpwl ym 1802, lle fu'n brentis i ysgythrwr coed. Dechreuodd beintio portreadau ym 1812, a derbyn comisiynau oddi wrth ei gyd-Fethodistiaid yn bennaf. Symudodd Hughes i Lundain ym 1814  lle'r ymsefydlodd ei hun yn raddol yn ysgythrwr coed. Rhwng 1818 a 1821 teithiodd drwy Gymru gyfan, yn cofnodi'r tirlun mewn llun a gair, a chanlyniad y daith oedd cyhoeddiad ei lyfr llwyddiannus iawn 'Beauties of Cambria' ym 1820. Ym 1832 dychwelodd Hughes i Gaernarfon lle'r ailddechreuodd ar ei waith fel peintiwr portreadau ar grwydr.

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'A coastal panorama' gan Hugh Hughes, tua'r flwyddyn 1816