Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Jones, David (1895-1974)

Canlyniadau 1 i 4 allan o 4

Tudalen 1

  • Ganed y bardd a'r artist David Jones (1895-1974) yn Brockley, Swydd Gaint.  Saesnes oedd ei fam ond hannai ei dad o Dreffynnon, Sir y Fflint, ac roedd gan David Jones ymwybyddiaeth gref iawn o'i gefndir Cymreig.  Mynychodd Ysgol Gelf Camberwell rhwng 1909 a 1914 ac Ysgol Gelf Westminster ym 1919.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd fel preifat gyda 15fed (Cymry Llundain) Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Ffrynt y Gorllewin.  Ym 1921 cafodd ei dderbyn i Eglwys Rufain.  Yn ystod yr un flwyddyn, cyfarfu'r artist a'r cerflunydd Eric Gill ac ymunodd â'i gymuned o artistiaid yn Ditchling, swydd Sussex.  Yn ystod y cyfnod 1924-28, treuliodd Jones a Gill gyfnodau hir yng Nghapel-y-ffin, Sir Frycheiniog, lle'r oeddynt wedi sefydlu cymuned arall.  Dyma bortread o Petra Gill, merch Eric Gill, a fu mewn perthynas â David Jones. 

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddylanwad mawr ar waith David Jones fel artist a llenor.  Cyhoeddwyd ei waith ysgrifenedig cyntaf ac enwocaf, 'In Parenthesis', ym 1937, a rhydd ddarlun byw o brofiadau nifer o filwyr cyffredin rhwng Rhagfyr 1915 a Gorffennaf 1916, gan orffen gyda brwydr waedlyd Mametz Wood.
'Petra Gill, Capel-y-ffin' gan David Jones, 1920au
  • Ganed y bardd a'r artist David Jones (1895-1974) yn Brockley, Swydd Gaint.  Saesnes oedd ei fam ond hannai ei dad o Dreffynnon, Sir y Fflint, ac roedd gan David Jones ymwybyddiaeth gref iawn o'i gefndir Cymreig.  Mynychodd Ysgol Gelf Camberwell rhwng 1909 a 1914 ac Ysgol Gelf Westminster ym 1919.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd fel preifat gyda 15fed (Cymry Llundain) Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Ffrynt y Gorllewin.  Ym 1921 cafodd ei dderbyn i Eglwys Rufain.  Yn ystod yr un flwyddyn, cyfarfu'r artist a'r cerflunydd Eric Gill ac ymunodd â'i gymuned o artistiaid yn Ditchling, swydd Sussex.  Yn ystod y cyfnod 1924-28, treuliodd Jones a Gill gyfnodau hir yng Nghapel-y-ffin, Sir Frycheiniog, lle'r oeddynt wedi sefydlu cymuned arall.  

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddylanwad mawr ar waith David Jones fel artist a llenor.  Cyhoeddwyd ei waith ysgrifenedig cyntaf ac enwocaf, 'In Parenthesis', ym 1937, a rhydd ddarlun byw o brofiadau nifer o filwyr cyffredin rhwng Rhagfyr 1915 a Gorffennaf 1916, gan orffen gyda brwydr waedlyd Mametz Wood.
'Christ in the garden' gan David Jones, 1920au

'The Orchard, Capel-y-Ffin' gan David Jones, 1920au
  • Ganed David Jones (1895-1974) yn Brockley, Swydd Gaint.  Saesnes oedd ei fam ond hannai ei dad o Dreffynnon, Sir y Fflint, ac roedd gan David Jones ymwybyddiaeth gref iawn o'i gefndir Cymreig.  Mynychodd Ysgol Gelf Camberwell rhwng 1909 a 1914 ac Ysgol Gelf Westminster ym 1919.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd fel preifat gyda 15fed (Cymry Llundain) Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Ffrynt y Gorllewin.  Cafodd ei brofiadau yn ystod y rhyfel ddylanwad mawr ar ei waith fel artist a llenor.  Cyhoeddwyd ei waith ysgrifenedig cyntaf ac enwocaf, 'In Parenthesis', ym 1937, a rhydd ddarlun byw o brofiadau nifer o filwyr cyffredin rhwng Rhagfyr 1915 a Gorffennaf 1916, gan orffen gyda brwydr waedlyd Mametz Wood.
Cerdyn Blwyddyn Newydd a gynlluniwyd gan y llenor a'r artist David Jones, 1918 [delwedd 1 o 2]