Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Jones, S. Maurice (1853-1932)

Canlyniadau 1 i 3 allan o 3

Tudalen 1

  • Roedd S. Maurice Jones (1853-1932) yn arlunydd tir yn bennaf a pheintiodd nifer o olygfeydd gerllaw ei gartref yng Nghaernarfon ac yn nyffryn Conwy.
'Left by the Tide' gan S. Maurice Jones (olew)
  • Peintiwyd y llun dyfrlliw hwn o Senedd-dy, Dolgellau, gan yr arlunydd S. Maurice Jones (1853-1932).  Roedd Jones yn arlunydd tir yn bennaf a pheintiodd nifer o olygfeydd gerllaw ei gartref yng Nghaernarfon ac yn nyffryn Conwy.  Ym 1891 cafodd ei gomisiynu gan O. M. Edwards i gyfrannu cyfres o luniau ar y thema cartrefi Cymru ar gyfer ei gylchgrawn newydd 'Cymru'.  Bu'r gyfres o ysgrifau a darluniau yn llwyddiannus iawn ac fe'u cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y gyfrol  'Cartrefi Cymry' (1896).  Mae'r llun hwn o'r Senedd-dy yn Nolgellau yn perthyn i'r gyfres honno.  Cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1885 a'i ail-godi yn Nolerw, Y Drenewydd.  Er mai 'Senedd-dy Owain Glyn Dŵr' oedd yr enw lleol ar yr adeilad, nid oes lle i gredu bod gan Glyn Dŵr unrhyw gysylltiad â'r adeilad.
'Senedd-dy Dolgellau' gan S. Maurice Jones, tua'r flwyddyn 1891 (dyfrlliw)
  • Peintiwyd y llun dyfrlliw hwn o gartref Mary Jones yn Llanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd, gan yr arlunydd S. Maurice Jones (1853-1932).  Roedd Jones yn arlunydd tir yn bennaf a pheintiodd nifer o olygfeydd gerllaw ei gartref yng Nghaernarfon ac yn nyffryn Conwy.  Ym 1891 cafodd ei gomisiynu gan O. M. Edwards i gyfrannu cyfres o luniau ar y thema cartrefi Cymru ar gyfer ei gylchgrawn newydd 'Cymru'.  Bu'r gyfres o ysgrifau a darluniau yn llwyddiannus iawn ac fe'u cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y gyfrol  'Cartrefi Cymry' (1896).  Mae'r llun hwn o gartref Mary Jones yn perthyn i'r gyfres honno.  Roedd Mary Jones (1784-1864) yn ferch i wehydd ac ym 1800, pan oedd yn 16 oed, cerddodd bum milltir ar hugain o'i chartref i dref y Bala er mwyn prynu copi o Feibl Cymraeg y Parchedig Thomas Charles.
'Cartref Mari Jones, Llanfihangel-y-Pennant' gan S. Maurice Jones, tua'r flwyddyn 1891 (dyfrlliw)