Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Jones, Thomas (Pencerrig) (1742-1803)

Canlyniadau 1 i 3 allan o 3

Tudalen 1

  • Ganed Thomas Jones (1742-1803), arlunydd tirluniau, ym mhlwyf Cefnllys, Sir Faesyfed, ond fe'i cysylltir yn bennaf a phlasty Pencerrig, Llanelwedd, lle cafodd ei fagu.  Gan fod ei rieni yn dymuno iddo fynd yn offeiriad, derbyniodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ond gadawodd ym 1761 er mwyn canolbwyntio ar ei waith peintio.  Aeth i Lundain, gan dderbyn hyfforddiant yn y lle cyntaf gan Shipley yn yr Academi Frenhinol, ac yna gan y paentiwr enwog o Gymru, Richard Wilson.

Datblygodd ei yrfa yn llwyddiannus yn ystod y degawd canlynol, wrth iddo ganolbwyntio'n bennaf ar dirluniau - gan gynnwys nifer o'r tirlun o amgylch Pencerrig.

Ym 1776 aeth Thomas Jones i'r Eidal ac mae'r darluniau a baentiwyd ganddo yn Rhufain a Napoli, o adeiladau a oedd i'w gweld o'i lety, bellach yn cael eu hystyried yn ddarnau hynod wreiddiol, a oedd ganrif ar flaen eu hamser.  Cafodd Thomas Jones ddylanwad mawr ar arlunwyr fel Corot, ac felly, ar y peintwyr Argraffiadol Ffrengig.  Yn wir, mae bellach yn cael ei ystyried gan haneswyr celf fel arlunydd o bwys yn natblygiad y diwylliant celf Ewropeaidd.

Ym 1783 dychwelodd i Brydain gan arddangos ei waith yn rheolaidd yn yr Academi Brydeinig.  Pan fu farw ei frawd hynaf, etifeddodd Thomas blasty Pencerrig ac yno y bu'n byw, gyda'i wraig Danaidd a'i ddwy ferch, hyd ei farwolaeth ym 1803.
'A View of the Wye' gan Thomas Jones (olew)

'Llangorse Lake' gan Thomas Jones (olew)

Datblygodd ei yrfa yn llwyddiannus yn ystod y degawd canlynol, wrth iddo ganolbwyntio'n bennaf ar dirluniau - gan gynnwys nifer (fel y gwelir yma) o'r tirlun o amgylch Pencerrig.

Ym 1776 aeth Thomas Jones i'r Eidal ac mae'r darluniau a baentiwyd ganddo yn Rhufain a Napoli, o adeiladau a oedd i'w gweld o'i lety, bellach yn cael eu hystyried yn ddarnau hynod wreiddiol, a oedd ganrif ar flaen eu hamser.  Cafodd Thomas Jones ddylanwad mawr ar arlunwyr fel Corot, ac felly, ar y peintwyr Argraffiadol Ffrengig.  Yn wir, mae bellach yn cael ei ystyried gan haneswyr celf fel arlunydd o bwys yn natblygiad y diwylliant celf Ewropeaidd.

Ym 1783 dychwelodd i Brydain gan arddangos ei waith yn rheolaidd yn yr Academi Brydeinig.  Pan fu farw ei frawd hynaf, etifeddodd Thomas blasty Pencerrig ac yno y bu'n byw, gyda'i wraig Danaidd a'i ddwy ferch, hyd ei farwolaeth ym 1803.
'Oak Tree at Pencerrig' gan Thomas Jones, 1795 (dyfrlliw)