Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Modelau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 11

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

Model o'r llong 'Desdemona' a hwyliodd o harbwr Aberaeron (3 o 3)
Model o long anhysbys mewn cas gwydr
  • Roedd Capten Thomas Morgan a'i fab, David Morgan, o Aberaeron, yn feistri ar y llong 'Jane'.  Ym mis Tachwedd 1907, suddodd y llong gerllaw pwynt y Mwmbwls, ond llwyddwyd i achub David Morgan a'i fêt, Thomas Williams, o Stryd y Frenhines. 

Yn gynharach y flwyddyn honno roedd y llong wedi dadlwytho llwyth o gerrig wedi eu malu yn Aberaeron ar gyfer Cyngor Sir Aberteifi. 

Ffynhonnell: 'Aberayron 1971 Exhibition of Paintings of Sailing Ships and Ships Equipment by Gwilym M. Jones' (Catalog Arddangosfa)
Model o'r llong 'Jane' a hwyliodd o harbwr Aberaeron
  • Adeiladwyd y model hwn o locomotif 'Penydarren' Richard Trevithick, 1804 gan brentisiaid yn ffatri Hoover ym 1974 a'i adfer gan D. & A. Sturgeon ym 1996.
Model o injan 'Penydarren' gan Trevithick, 1804
  • Crëwyd y ffiguryn hwn o Richard Trevithick yn dal model o'i gerbyd ffordd 'Camborne' fel paratoad ar gyfer codi cofeb llawn faint i'r peiriannydd ym Merthyr Tudful.
Cerflun bach o Richard Trevithick, arloeswr locomotifau
  • Cyflwynwyd y model hwn o long tri-mast i Ymddiriedolaeth Forwrol Seiont II ym 1988.  Yn anffodus, ychydig iawn a wyddys am hanes y model a'r sawl a'i gwnaeth.  Adeiladwyd y math hwn o long yn ystod y 1870-80au ac mae manylder y gwaith yn awgrymu bod y model yn seiliedig ar long go iawn.  Efallai bod y gwneuthurwr wedi treulio cyfnod yn gweithio ar y llong.  Fodd bynnag, ni chafodd llong debyg i hon ei chofrestru dan yr enw 'Arvon'.
Model o'r llong tri-mast 'Arvon'