Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Penddelwau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 14

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Nesaf

  • Roedd y brodyr Linton, yr ieuengaf oedd Samuel, yn bencampwyr seiclo byd enwog ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Penddelw o'r seiclwr Samuel Linton, Aberdār
  • Arthur Linton oedd yr un mwyaf llwyddiannus o blith y Brodyr Linton; roedd y tri ohonynt yn seiclwyr cystadleuol.  Er iddo ennill nifer o rasys ym Mhrydain ac ar draws Ewrop, ei ras olaf, y ras o Bordeaux i Baris ym 1896, a roddodd yr enwogrwydd parhaol iddo.

Roedd gan y ras wobr ariannol fawr, ac Arthur oedd y cyntaf adref i'w chasglu.  Serch hynny, fe ymddengys iddo droi'r ffordd anghywir ar hyd y ffordd ac o ganlyniad bu'n rhaid iddo rannu ei enillion gyda'r un a ddaeth yn ail.  Dyma oedd diwedd gyrfa Arthur.  Bu farw ddeufis yn ddiweddarach wedi iddo ddioddef o'r teiffoid.
Penddelw o'r seiclwr Samuel Linton, Aberdār
  • Mae'r ffotograff hwn yn dangos dau biler giāt gyda phenddelwau duon herodrol ar eu pennau sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 1690au.  Yn ōl pob tebyg, hwn oedd porth gwreiddiol y tŷ.
Neuadd Bodrhyddan, Diserth: y porth gwreiddiol, 1958
  • Roedd Charlotte Guest (1812-95) yn wraig i John Josiah Guest, meistr haearn Dowlais.  Er iddi fwynhau bywyd moethus o ganlyniad i ddiwydiant ei theulu, fe'i cofir yn anad dim oherwydd ei gofal dyngarol dros weithwyr yr ardal.
Penddelw o Charlotte Guest, gan Joseph Edwards
  • Arlunydd tirluniau a ffigyrau dynol oedd Sydney Curnow Vosper (1866-1942).  Ei waith enwocaf yw 'Salem' (1908); darlun o hen fenyw mewn gwisg draddodiadol Cymreig yn mynychu gwasanaeth yng Nghapel Salem, Cefncymerau.
Cerflunydd oedd Syr William Goscombe John (1960-1952) a aned yng Nghaerdydd.  Yn ystod ei fywyd daeth ei waith, a oedd yn y dull Gothig, yn enwog ar draws y byd.
Penddelw o Sydney Curnow Vosper gan Syr William Goscombe John
  • Gweithiodd Clark, peiriannydd a hynafiaethydd, i Isambard Kingdom Brunel ar Reilffordd y Great Western.  Ym 1852 daeth yn ymddiriedolwr ar Weithfeydd Dowlais gan reoli'r gweithfeydd i bob pwrpas hyd at ei farwolaeth.

Roedd yn gwbl ymroddedig i wella amodau byw ofnadwy'r dref ac roedd yn Gadeirydd ar Fwrdd Gwarcheidwaid, Undeb Deddf y Tlodion ym Merthyr Tudful, ynghyd ā'r Bwrdd Iechyd Lleol.
George Thomas Clark (1809-1898), gan Joseph Edwards