Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Trefluniau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 24

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Tudalen 4

Nesaf

Neuadd y Sir, Trefynwy, c. 1850
'Merthyr Tydfil' gan Penry Williams
'The Corner of Mary Street, Cilfynydd' gan Richard J. Oliver, 1997
  • Golygfa o dref sirol fechan Aberhonddu yn y pellter.  Mae'r ddelwedd hon yn perthyn i gyfres o engrafiadau topograffig poblogaidd a grëwyd ac a gyhoeddwyd gan Newman & Co, 28 Watling Street, Llundain.  Roeddynt yn cael eu hystyried yn gyhoeddwyr pwysig yn y maes hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Yn yr olygfa hon, uwchlaw Afon Wysg, gwelir tŵr uchel Eglwys y Santes Fair, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif, uwchben y dref ac mae Bannau Brycheiniog a Phen y Fan yn llenwi'r tirlun i gyfeiriad y de.
Golygfa o Aberhonddu ac Afon Wysg, 19eg ganrif
  • Golygfa o dref Aberhonddu yn y 1880au o Westy Castell Aberhonddu, gerllaw adfeilion y castell.  Gwelir hefyd Afon Wysg, Pont Llanfaes, Coleg yr Iesu a'i gapel yn y cefndir.  Mae Bannau Brycheiniog a Phen y Fan i'w gweld yn y pellter.  Cafodd y print hwn ei engrafio a'i gyhoeddi gan Newman & Co, 48 Watling Street, Llundain.
Golygfa o Aberhonddu o Westy'r Castell, 1880au
  • Golygfa ar hyd Afon Honddu o Bont y Castell yn Aberhonddu at y fan lle mae'r afon yn cyfarfod ag Afon Wysg.  Mae adfeilion Castell Brycheiniog i'w gweld uwchlaw'r afon ar y dde ac mae copa Pen y Fan yn y pellter.  Mae'r print hwn yn seiliedig ar ddarlun gan Henry Gastineau, fe'i engrafiwyd gan Bond, ac fe'i gyhoeddwyd fel rhan o gyfres o brintiadau topograffig o'r enw 'Jones Views'.
Golygfa o Aberhonddu, 1830au