Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Turner, J. M. W. (1775-1851)

Canlyniadau 1 i 6 allan o 6

Tudalen 1

  • Paentiwyd y darlun hwn yn ystod, neu'n syth wedi taith Turner drwy dde Cymru ym 1795 ac fe'i arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1796.  Mae'n ddelwedd godidog o olau dydd wrth iddi nosi ac mae'n cynrychioli uchafbwynt y daith ym 1795.  Mae'r portread o'r castell (sy'n llawer agosach yn y llun nac yw mewn gwirionedd) yn erbyn yr haul llachar, isel yn rhoi cipolwg i ni ar ddiddordeb diweddarach Turner mewn effeithiau golau.  Mae'n debyg bod y lliwiau cyfoethog yn ymwneud â'i arbrofion gyda phaent olew, ac yn rhagarwyddo palet ei destunau 'aruchel' wrth ddwy neu dair blynedd.  Pan lanhawyd y llun dyfrlliw hwn yn ddiweddar datgelwyd bodolaeth ail ddelwedd, wedi ei bastio wyneb i fyny ar gefn y llun.

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
'Llandilo Bridge and Dynevor Castle' gan J. M. W. Turner, tua'r flwyddyn 1796 (dyfrlliw)
  • Darganfuwyd y llun dyfrlliw hwn yn ddiweddar wedi ei ludio i gefn fersiwn terfynol yr un llun.  Mae bron yn union yr un llun â'r darlun terfynol ond ei fod yn anorffenedig ac wedi ei beintio yn defnyddio techneg lydan a lliwiau dwfn iawn nad ydynt wedi pylu gan nad ydynt erioed wedi gweld golau.  Nid yw'n glir beth oedd bwriad Turner wrth ludio un darlun ar ben un arall.  Efallai iddo arbrofi â llewyrchiant a'i fwriad oedd y byddai lliwiau dwfn y darlun gwaelod yn dangos drwy'r papur, ac felly'n ychwanegu cryfder arlliw gyda dyfnder effaith debyg i beintiadau olew.  Ymddengys mai'r un papur a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith gorffenedig a'r ddalen waelod hon, sef dau ddarn o bapur wedi eu gludio at ei gilydd.  Er bod y defnydd hwn o 'ddelwedd ddwbl' i'w weld yn unigryw ymysg gwaith Turner mae'n ymddangos mewn enghreifftiau eraill o'i waith, sydd hefyd yn dyddio o'r 1790au, fel ei ddau arbrawf â thryloywder.  Peintiwyd cefnau'r lluniau hyn â phaent neu â resinau, fel y gellir trawsnewid y delweddau ar y blaenau drwy ddisgleirio golau o'r tu ôl iddynt. 

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'Study for Llandilo Bridge and Dynevor Castle' gan J. M. W. Turner, ail hanner y 18fed ganrif (dyfrlliw)
  • Castell y Fflint oedd y cyntaf i'w adeiladu yn ystod ymgyrch filwrol Edward I yng Nghymru yn ystod 1279-77.  Wedi ei amgylchynu gan ddyfroedd aber Afon Dyfrdwy, fe'i adeiladwyd i gynllun pedwar sgwâr, ond roedd yn cynnwys y nodwedd anarferol fod un o'i dyrau cornel yn fwy na'r lleill ac ar wahân i weddill y castell, ac felly'n ffurfio gorthwr ar wahân. Ymwelodd Turner â'r Fflint ar ei dair taith drwy Ogledd Cymru, ym 1794, 1798 a 1799.

Roedd Castell y Fflint ymhlith yr ysgythriadau cyntaf a gyhoeddwyd o'i lyfr 'Studiorum' ym mis Mehefin 1807, er, yn anesboniadwy, gelwid y ddelwedd yn 'Landscape on the French Coast'. Ni pheintiwyd y llun dyfrlliw hwn hyd at 1834 ac roedd yn un o dri pheintiad a wnaethpwyd yn y fan a'r lle ar gyfer ei gyfres barhaol o ysgythriadau 'Picturesque Views in England and Wales'. (Mae astudiaeth lai mewn casgliad preifat yn Tokyo, Siapan.)

Daeth y peintiad i feddiant John Ruskin a ysgrifennodd amdano'n ddiweddarach: ''This is the loveliest piece of pure watercolour painting in my whole collection; nor do I know anything elsewhere that can compare, and little that can rival, the play of light on the sea surface and the infinite purity of the colour in the ripples of it as they near the sand.''

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'Flint Castle' gan J. M. W. Turner, 1835 (dyfrlliw)
  • Seiliwyd yr olygfa ddramatig hon sy'n edrych ar draws croesfa ddeheuol Priordy Ewenni ar nodiadau a braslun pensel a wnaeth Turner yn ystod ei daith yn ne Cymru ym 1795. Arddangoswyd y llun dyfrlliw gorffenedig hwn yn yr Academi Frenhinol ym 1797 lle y cynhyrfodd un adolygydd gymaint fe ysgrifennodd:

''In point of colour and effect this is one of the grandest drawings we have ever seen, and equal to the best pictures of Rembrandt.''

Sefydlwyd eglwys briordy Sant Mihangel, Ewenni, gan William de Londres, Arglwydd Ogwr. Fe'i hadeiladwyd tua 1115-20 ar gyfer prior a rhwng deg a phymtheng mynach. Mae'n debyg mai Syr Paganus de Turberville o Goety, noddwr y priordy o'r ddeuddegfed ganrif, yw'r ddelw o farchog ar yr allor ar ochr dde'r llun.

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire' gan J. M. W. Turner, tua'r flwyddyn 1797 (dyfrlliw)
  • Mae Rhaeadr yn dref fechan ar lannau uchaf Afon Gwy, i'r gogledd o Lanfair-ym-Muallt.  Mae'r llofnod yn y gornel chwith ar waelod y darlun yn bendant yn ychwanegiad diweddarach ac felly'n amheus. 

Os mai gwaith Turner yw hwn, mae'r arddull yn rhagddyddio'i fynediad i'r Academi. Priodolwyd y darlun i Edward Dayes (1763-1804). O tua 1790 ymlaen fe wnaeth Dayes deithiau braslunio blynyddol yng Nghymru ac yn Lloegr. Roedd yn athro i Girtin ac yn y 1790au mabwysiadodd ddull mwy mentrus ac atmosfferig, yn lle dull a olygai amlinellu gofalus wedi ei ddilyn gan olchliwiau glas a llwyd ac yn y pen draw rhoi lliw cynnes dros y golchiadau cynt, gan ofalu i beidio 'introducing the colour of an object in its shade', dull a ddisgrifiodd yn ei lyfr 'Instructions for Drawing and Colouring Landscape' a gyhoeddwyd ym 1805.

Cadwodd y dull rhydd hwn y rhannau traddodiadol a'r pictiwresg, yn cyfosod adeiladweithiau â ffurfiau naturiol toredig. Gellid cysylltu'r darlun hwn felly ag un o'i deithiau i Gymru ar ddechrau'r 1790au. Cymhlethwyd priodoliaeth y darlun gan gyflogaeth Turner a Girtin gan Dr Thomas Monro i gopïo gwaith Hearne, Dayes a John Robert Cozens yng nghasgliad Monro. Yn gyffredinol mae'r gweithiau hyn yn seiliedig ar olchliwiau glas a llwyd. Roedd gan Finberg amheuon dwfn am 'the 400 blue and grey drawings in the Turner Bequest...' Mae'n hysbys i Turner brynu sawl llun dyfrlliw tebyg yng ngwerthiant Dr Monro ym 1833, yn ôl pob tebyg i'w rhwystro rhag cael eu gwerthu fel ei waith ei hun. Er hynny, mae'n eironig fod ei ysgutorion wedi'u catalogio wedi'u llofnodi.

Dywedir fod Turner wedi ymweld â Rhaeadr Gwy ar ei daith gyntaf i Gymru ym 1792. Mae'r llun dyfrlliw yng Nghymynrodd Turner yn defnyddio man ffafriol tebyg i'r un yn y gwaith hwn, sy'n dynodi perthnasedd agos rhwng y ddau ddarlun dyfrlliw hyn. Mae Andrew Wilton yn dyddio gwaith Cymynrodd Turner i 1796-7, nid ei daith ym 1795 (yn wir, arhosodd Turner yn Ne a Gorllewin Cymru ym 1795) ond yn hytrach llun dyfrlliw ffurfio ymarferiad arddulliol, yng ngeiriau Wilton, yn adlewyrchu  'the brighter more lyrical palette ... adopted in about 1796 for many of (Turner's) pastoral and picturesque subjects'.'

Efallai mai awgrymiad credadwy ynglŷn â'r llun dyfrlliw hwn yw ei fod yn waith o 'Ysgol Monro', o bosibl gan Turner, ar ôl Dayes!

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
'Rhaido Gwy bridge' gan J. M. W. Turner o bosibl (dyfrlliw)
  • Dyma lun rhif 28 o gyfrol Turner 'Liber Studiorum' a gyhoeddwyd ym 1807 fel cyfres o engrafiadau.  Ei fwriad oedd cyhoeddi 100 o luniau, ond dim ond 70 a ymddangosodd, mewn 14 rhan.  Cyhoeddwyd y rhannau unigol, pob un yn cynnwys pedwar print, fesul dipyn hyd 1819 pan roddodd y gorau i'r cynllun, oherwydd diffyg diddordeb yn ôl pob tebyg.  Lluniodd Turner raddluniadau sepia ar gyfer y rhan fwyaf o'r lluniau, cyn eu hysgythru ar gopr. Byddai'r engrafiadau yn cael eu mesotintio gan aelod o dîm o engrafwyr dan gyfarwyddyd Turner.  Mae'r llun a welir yma, fodd bynnag, yn un o'r enghreifftiau prin a gafodd eu hengrafio gan Turner ei hun.  Defnyddiodd gyfres o lythrennau i ddosbarthu'r gwahanol brintiau.  Ystyr y llythrennau 'E.P' ar ben y llun yw 'Epic' neu 'Elevated Pastoral'.

Ffynhonnell: Testun arddangosfa, Amgueddfa Cas-gwent.
'Junction of the Severn and Wye' gan J. M. W. Turner, c. 1798 (engrafiad)