Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Celf gain a cherfluniau » Ysgythriadau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 6

Tudalen 1

  • Daeth George Chapman (1908-1993), arlunydd o Loegr, i dde Cymru am y tro cyntaf yn y 1950au.  Cafodd ei ysbrydoli gan dirlun y cymoedd diwydiannol, ac ardal y Rhondda yn enwedig, a symudodd i Gymru ym 1960.  Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1957 am ei ddarlun olew 'View in Merthyr Tydfil'.
'Going Home' (Trehafod) gan George Chapman, 1960au (ysgythriad)
  • Roedd Edgar Holloway yn ffigur blaenllaw yn adfywiad ysgythru'r 1930au.
'Hunan-bortread' gan Edgar Holloway (g.1914), 1936
  • Ganed Frederick Richards yng Nghasnewydd a bu'n astudio yn y Coleg Celf Brenhinol wrth draed Syr Frank Short.  Bu'n weithgar iawn yn hybu ac yn darlithio ar addysg celf.
'Fiesole - near Florence No. 11' gan Frederick Richards (1878-1932), 1916
  • Roedd Stanley Badmin yn arlunydd, ysgythrwr a darlunydd.  Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Celf Camberwell a'r Coleg Celf Brenhinol.
'Swinbrook Bridge' gan Stanley Roy Badmin (1906-89), c. 1930
  • Roedd Graham Sutherland ac Edward Bouverie Hoyton yn fyfyrwyr yng Ngholeg Goldsmiths yng nghanol y 1920au.  Prynwyd yr ysgythriad hwn (a wnaed ar gyfer ei gais aflwyddiannus ar gyfer Prix de Rome y flwyddyn honno) gan Brifysgol Aberystwyth yn ei sioe unigol gyntaf yn Oriel 21 ym 1924; ar y pryd, roedd Sutherland yn dal i fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Goldsmith.
'Adam and Eve'gan Graham Sutherland (1903-80), 1924 (ysgythriad)
  • Yn ystod y 1920au, roedd ysgythriadau cain Gerald Brockhurst yn hynod boblogaidd.  Cafodd yr ysgythriad hwn ei arddangos yn Oriel 21 ym 1924.
'Najeda' - y ddawnswraig, gan Gerald Leslie Brockhurst (1890-1978), 1924