Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Eisteddfodau » Eisteddfod Genedlaethol
  • Yn ôl pob tebyg y teulu Hanbury a adeiladodd y tŵr ym Mharc Pont-y-pŵl ar ddechrau'r 18fed ganrif.  Erbyn ail hanner y 18fed ganrif fe'i defnyddiwyd fel tŷ haf ac yn hwyrach fel gasebo.

Mae ei safle amlwg yn golygu fod ganddo olygfeydd trawiadol ar draws Y Mynydd Du, Dyffryn Hafren a Gwlad yr Haf, a gellir gweld y tŵr ei hun o bell.  Trodd natur amlwg y tŵr yn ei erbyn ym 1940 gan y bu'n rhaid ei ddymchwel er mwyn atal bomwyr Almaenaidd rhag ei ddefnyddio fel cyfeirbwynt.  

Fe'i hailadeiladwyd ar ddechrau'r 1990au.
Y Ffugadeilad, Pont-y-pŵl, tynnwyd y ffotograff ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, 1924
  • Y gerdd 'Clychau'r Gog' gan R. Williams Parry, yn ei law ei hun. 'Blodau'r Gog' oedd teitl gwreiddiol y gerdd. Cyhoeddwyd hi yn y gyfrol 'Cerddi'r Gaeaf' (1952).

Ganed R. Williams Parry (1884-1956) yn Nhal-y-sarn, dyffryn Nantlle.  Roedd yn gefnder i'r llenorion ac ysgolheigion T. H. Parry-Williams a Thomas Parry.  Treuliodd ddwy flynedd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond gadawodd ym 1904 heb gwblhau ei radd gan fynd yn athro elfennol.  Ailgydiodd yn ei astudiaethau ym 1907 ym Mhrifysgol Bangor gan ennill ei radd y flwyddyn ganlynol.  Bu'n athro am gyfnod mewn sawl ysgol ledled Cymru, cyn dychwelyd i'r brifysgol ym Mangor i ddarlithio.  Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1910 am ei awdl 'Yr Haf', a gyhoeddwyd yn y gyfrol 'Yr Haf a Cherddi Eraill' (1924).  Rhoddodd y gorau i farddoni am gyfnod, cyn ail-gydio ynddi ym 1936 yn dilyn helynt llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth gan dri cenedlaetholwr amlwg, sef Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine.  Cynddeiriogwyd Williams Parry gan benderfyniad Prifysgol Cymru i ddiswyddo Saunders Lewis am ei ran yn y weithred honno a dechreuodd ysgrifennu nifer o gerddi gwleidyddol, fel 'J. S. L' ac 'Y Gwrthodedig'.  Cyhoeddwyd y cerddi hyn yn ei ail gyfrol 'Cerddi'r Gaeaf' a ymddangosodd ym 1952.
Copi o'r gerdd 'Blodau'r Gog' gan R. Williams Parry yn ei law ei hun, 31 Mai 1932 [delwedd 1 o 2]
  • Yn y llythyr hwn, dyddiedig 4 Awst 1917, ysgrifenna Cynan at ei gyfnither, Megan, o Salonica lle mae'n gwasanaethu gyda'r Fyddin Brydeinig.  Dywed ei fod yn falch iawn o dderbyn ei llythyr tua wythnos yn ôl.  Yr oedd wedi cael pleser wrth ei ddarllen gan bod ganddi ddawn anghyffredin i ysgrifennu yn y 'cywair llon'.  Nid yw'n obeithiol iawn y byddant adref cyn diwedd y flwyddyn ond mae'n gobeithio am y gorau.  Byddai'r sefyllfa'n obeithiol iawn petai Prydain yn derbyn cynnig heddwch nesaf yr Almaen.   

Ganed y bardd a'r dramodydd Albert Evans-Jones (Cynan, 1895-1970), ym Mhwllheli.  Ar ôl cyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ymunodd â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu fel milwr ac yna fel caplan.  Yn ystod yr 1920au bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmaen-mawr, ond ym 1931 cafodd ei benodi'n Diwtor yn ei hen goleg ac yno y bu hyd ei ymddeoliad.  Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith (ym 1921, 1923 a 1931), a'r Gadair ym 1924.  Bu hefyd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ddwywaith, yn ystod yr 1950au a'r 1960au.
Llythyr a anfonwyd gan y bardd Cynan o Salonica at ei gyfnither, 4 Awst 1917 [delwedd 1 o 6]
Y ddawns flodau, Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959
Medal a gyflwynwyd i Joseph Parry am y Motett gorau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1863 [blaen, delwedd 1 o 2]
  • Ar y dudalen hon mae'r awdures yn cofnodi ei hymweliad cyntaf ag Ystâd Llanofer, a'i chyflog pan gafodd ei chyflogi yno wedyn.
Cofiannau Ystâd Llanofer, gan Mrs Francis Jenkins (tudalen 1 o 7)