Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Eisteddfodau » Eisteddfodau lleol
Rhaglen Cyfarfod Cystadleuol i'w gynnal ddydd Nadolig, 1863, yn Neuadd y Dref, Aberystwyth
  • Mae'r cerflun hwn yn portreadu Brenin Tewdrig cyn ei farwolaeth.  Roedd Tewdrig yn sant o'r pumed ganrif ac yn frenin Morgannwg.  Cynlluniwyd y cerflun gan John Evan Thomas ym 1848, ac fe'i ailfodelwyd gan ei frawd, William Meredyth Thomas, a'i gastio mewn efydd gan ddefnyddio dull electrolysis gan gwmni Elkington & Co., Birmingham, ym 1856.

Cwblhawyd y gwaith ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Y Fenni 1848.  Roedd gan y trefnwyr, a oedd yn cynnwys Thomas Price ('Carhuanawc') ac Arglwyddes Llanofer, amcanion gwladgarol ac roeddynt yn awyddus i hybu celf gweledol Gymreig.
'The Death of Tewdrig' gan John Evan Thomas, 1848
Rhestr Testunau Eisteddfod Gadeiriol Corwen, 1 Awst 1927 [clawr, delwedd 1 o 1]
  • Ar y dudalen hon mae'r awdures yn cofnodi ei hymweliad cyntaf ag Ystâd Llanofer, a'i chyflog pan gafodd ei chyflogi yno wedyn.
Cofiannau Ystâd Llanofer, gan Mrs Francis Jenkins (tudalen 1 o 7)
  • Rhaglen Eisteddfod a Chyngerdd Gŵyl Ddewi Cymreigyddion Bethesda, 1864.
Rhaglen Eisteddfod a Chyngerdd Cymreigyddion Bethesda, 1864 [delwedd 1 o 4]
  • O'r chwith i'r dde: pwrs wedi ei wneud o felfed coch brocêd blodeuog gydag ochrau les lliw hufen a rhuban lliw aur;  pwrs eisteddfod mewn sidan glas golau wedi ei addurno gyda grug gwyn ffug ac ymyl sidan gwyrdd gydag ymyl les wedi ei grosio - mae'r rhuban llydan yn cynnwys brodwaith coch a gwyn ag ochrau sgalop; pwrs wedi ei wneud o felfed coch gydag ymyl les lliw hufen ar ruban glos golau.
Tri Pwrs Eisteddfod