Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Llenyddiaeth » Awduron eraill

Canlyniadau 1 i 6 allan o 11

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

Darnau o lawysgrif y nofel 'Rape of the Fair Country' gan Alexander Cordell [delwedd 1 o 8]
  • Mae'r engrafiad lliw hwn o Gastell Rhuddlan gan Moses Griffith yn ymddangos ar wynebddalen y gyfrol 'A Journey to Snowdon' gan Thomas Pennant (1781).  Cyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o'r gyfres 'A Tour in Wales'.  Argraffwyd deg copi mawr o'r gyfrol 'A Journey to Snowdon', pob un yn cynnwys darluniau ychwanegol.  Dim ond tri copi sydd wedi goroesi.  Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o engrafiadau lliw gan Moses Griffith (1747-1819) a lluniau dyfrlliw ychwanegol gan J. Harris (m. 1834).
Thomas Pennant, 'The Journey to Snowdon' (London, 1781), wynebddalen [delwedd 1 o 22]
  • Enw'r gadair gefngrwm hon yw 'cader Jaci Penrhiw' ac roedd unwaith yn eiddo i D. J. Williams a'i deulu, y llenor a anfarwolodd bentref Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, yn ei lyfr 'Hen Dŷ Ffarm' (1953).  Dywedir iddo ddefnyddio'r gadair hon wrth y bwrdd bwyd.

Ganed y llenor, D. J. Williams (1885-1970) yn Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin.  Roedd ymhlith un o sefydlwyr Plaid Genedlaethol Cymru ym 1925 ac, ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, cymerodd ran yn y weithred symbolaidd o gynnau tân yn yr ysgol fomio ym Mhenyberth, Pen Llŷn, ym 1936.
'Cader Jaci Penrhiw': cadair o Rydcymerau, 19eg ganrif
  • Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.

Ganed Jack Jones (1884-1970) ym Merthyr Tudful.  Dechreuodd ysgrifennu yn ystod y 1920au a chyhoeddodd ei nofel gyntaf 'Black Parade' ym 1935.  Dilynwyd hon gan 'Rhondda Roundabout' (1934), 'Bidden to the Feast' (1938) ac 'Off to Philadelphia in the Morning' (1947) ymhlith eraill.  Cyhoeddodd ei hunangofiant mewn tair cyfrol, sef 'Unfinished Journey' (1937), 'Me and Mine' (1948) a 'Give me back my Heart' (1950).  Roedd hefyd yn awdur tair drama a chofiant o David Lloyd George, 'The Man David' (1944).
Jack Jones (1884-1970), awdur, yn ymyl Afon Taf, 1 Mehefin 1951
  • Gwelir yr awdures Kate Roberts (1891-1985) yn annerch y gynulleidfa.  Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
Kate Roberts yn annerch cyfarfod yn Llewenni, 13 Chwefror 1953
  • Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.

Ganed y bardd a'r awdur T. Llew Jones (1915-) ym Mhentre-cwrt, ger Llandysul.  Bu'n gweithio fel athro cyn troi i ysgrifennu yn amser-llawn.  Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1958 a 1959.  Mae wedi ysgrifennu dros 50 o gyfrolau, ac yn fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau plant, yn farddoniaeth a rhyddiaith.  Mae nifer o'i nofelau mwyaf poblogaidd yn seiliedig ar gymeriadau a digwyddiadau hanesyddol ac mae'r rhain yn cynnwys 'Corn, Pistol a Chwip' (1969), 'Barti Ddu' (1973), 'Un Noson Dywyll' (1973), 'Tân ar y Comin' (1975) a 'Lleuad yn Olau' (1989).
T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950