Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Llenyddiaeth » Barddoniaeth
  • Teitl y gerdd hon yw 'O'r Niwl i'r Nef' gan Watcyn Wyn [a osodwyd ar gerddoriaeth yn hwyrach gan D. E. Williams] ac fe'i dilynir gan bennill Saesneg.   Y mae'n ymddangos i fod yn llaw Owen Ashton.
Cerdd o'r enw 'O'r Niwl i'r Nef' gan Watcyn Wyn
Emyn neu gerdd heb ddyddiad yn llaw Mary Jones [?]
  • Y gerdd 'Clychau'r Gog' gan R. Williams Parry, yn ei law ei hun. 'Blodau'r Gog' oedd teitl gwreiddiol y gerdd. Cyhoeddwyd hi yn y gyfrol 'Cerddi'r Gaeaf' (1952).

Ganed R. Williams Parry (1884-1956) yn Nhal-y-sarn, dyffryn Nantlle.  Roedd yn gefnder i'r llenorion ac ysgolheigion T. H. Parry-Williams a Thomas Parry.  Treuliodd ddwy flynedd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond gadawodd ym 1904 heb gwblhau ei radd gan fynd yn athro elfennol.  Ailgydiodd yn ei astudiaethau ym 1907 ym Mhrifysgol Bangor gan ennill ei radd y flwyddyn ganlynol.  Bu'n athro am gyfnod mewn sawl ysgol ledled Cymru, cyn dychwelyd i'r brifysgol ym Mangor i ddarlithio.  Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1910 am ei awdl 'Yr Haf', a gyhoeddwyd yn y gyfrol 'Yr Haf a Cherddi Eraill' (1924).  Rhoddodd y gorau i farddoni am gyfnod, cyn ail-gydio ynddi ym 1936 yn dilyn helynt llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth gan dri cenedlaetholwr amlwg, sef Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine.  Cynddeiriogwyd Williams Parry gan benderfyniad Prifysgol Cymru i ddiswyddo Saunders Lewis am ei ran yn y weithred honno a dechreuodd ysgrifennu nifer o gerddi gwleidyddol, fel 'J. S. L' ac 'Y Gwrthodedig'.  Cyhoeddwyd y cerddi hyn yn ei ail gyfrol 'Cerddi'r Gaeaf' a ymddangosodd ym 1952.
Copi o'r gerdd 'Blodau'r Gog' gan R. Williams Parry yn ei law ei hun, 31 Mai 1932 [delwedd 1 o 2]
  • Yn y llythyr hwn, dyddiedig 4 Awst 1917, ysgrifenna Cynan at ei gyfnither, Megan, o Salonica lle mae'n gwasanaethu gyda'r Fyddin Brydeinig.  Dywed ei fod yn falch iawn o dderbyn ei llythyr tua wythnos yn ôl.  Yr oedd wedi cael pleser wrth ei ddarllen gan bod ganddi ddawn anghyffredin i ysgrifennu yn y 'cywair llon'.  Nid yw'n obeithiol iawn y byddant adref cyn diwedd y flwyddyn ond mae'n gobeithio am y gorau.  Byddai'r sefyllfa'n obeithiol iawn petai Prydain yn derbyn cynnig heddwch nesaf yr Almaen.   

Ganed y bardd a'r dramodydd Albert Evans-Jones (Cynan, 1895-1970), ym Mhwllheli.  Ar ôl cyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ymunodd â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu fel milwr ac yna fel caplan.  Yn ystod yr 1920au bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmaen-mawr, ond ym 1931 cafodd ei benodi'n Diwtor yn ei hen goleg ac yno y bu hyd ei ymddeoliad.  Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith (ym 1921, 1923 a 1931), a'r Gadair ym 1924.  Bu hefyd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ddwywaith, yn ystod yr 1950au a'r 1960au.
Llythyr a anfonwyd gan y bardd Cynan o Salonica at ei gyfnither, 4 Awst 1917 [delwedd 1 o 6]
  • Anfonodd John Morris-Jones y llythyr hwn at ei gariad, Mary Hughes, Siglen, Llanfair Pwllgwyngyll, ddydd Calan 1892.  Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llythyr ar ffurf cyfres o benillion ac mae'r dudalen gyntaf hefyd yn cynnwys braslun dyfrlliw a beintiwyd gan John Morris-Jones ei hun.  Mae John yn ddigon parod i fynegi ei deimladau yn ei lythyrau at Mary, ond mae'n amlwg nad yw Mary mor agored yn ei llythyrau hithau.  Ar ddiwedd y llythyr hwn gofynna John 'paham nad ydi Mary bach y llythyrau ddim mor rydd, mor
Llythyr a anfonodd John Morris-Jones at ei gariad Mary, Dydd Calan 1892 [tudalen 1 o 4]
  • Ganed y bardd Idris Davies (1905-53) yn Rhymni, Sir Fynwy.  Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio i'r pwll glo lleol.  Caewyd y lofa honno yn dilyn Streic Gyffredinol 1926 ac fe hyfforddodd Davies fel athro.  Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth ac fe gyhoeddwyd amryw o'i gerddi yn ystod y 1930au mewn gwahanol gyhoeddiadau.  Yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 'Gwalia Deserta' (1938), canolbwyntiodd Davies ar effaith y dirwasgiad ar gymunedau diwydiannol de Cymru.  Yn ei ail gyfrol, 'The Angry Summer' (1943), ysgrifennodd un gerdd hir yn croniclo profiadau'r cymunedau diwydiannol rheini yn ystod Streic Gyffredinol 1926.  Dychwelodd Davies i Gwm Rhymni i weithio fel athro ym 1947.  Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf o farddoniaeth, 'Selected Poems', yn fuan cyn ei farwolaeth.
Y gerdd 'Rhymney' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun