Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Celfyddydau a Diwylliant » Llenyddiaeth » Llyfr Aneirin, c. 1265

Canlyniadau 1 i 2 allan o 2

Tudalen 1

  • Mae Llyfr Aneirin yn dyddio o tua 1265 ac mae'n cynnwys cyfres o awdlau byrion a briodolir i'r Cynfardd Aneirin a oedd yn ei flodau yn ystod ail hanner y chweched ganrif.

Mae'r cerddi yn coffáu arwriaeth llwyth y Gododdin a'u cynghreiriaid a laddwyd mewn ymosodiad trychinebus ar safle strategol Catraeth, swydd Efrog tua'r flwyddyn 600.

Dengys yr iaith, y mydr a thechneg y gerdd ei bod yn dilyn traddodiad hir o ganu mawl yn yr iaith Frythoneg, sef ffurf arbennig o'r Hen Gymraeg a siaredid yn Cumbria ac yn ardaloedd deheuol yr Alban.

Cytunir yn gyffredinol i'r Gododdin gael ei throsglwyddo ar lafar yn unig dros gyfnod hir cyn iddi gael ei hysgrifennu ar femrwn am y tro cyntaf.

Tynnwyd y lluniau hyn o'r llawysgrif cyn i'r gyfrol gael ei hatgyweirio a'i hail-rwymo.

Cyhoeddwyd golygiad o'r Gododdin, gyda thrafodaeth ragarweiniol, gan Ifor Williams 'Canu Aneirin' (1938).

Ffynhonnell:  
Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1992)
Llyfr Aneirin, c. 1265, clawr [delwedd 1 o 44]
  • Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. 

Ganed Ifor Williams (1881-1965) yn Nhre-garth, Sir Gaernarfon.  Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, ac yn aelod o staff yn Adran y Gymraeg.  Derbyniodd Gadair bersonol ym 1920 a daeth yn Bennaeth ar yr Adran ym 1947.  Prif faes ei ysgolheictod oedd canu cynnar Cymraeg a chyhoeddodd nifer o olygiadau o'r testunau hyn.  Ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf adnabyddus, mae 'Canu Llywarch Hen' (1935), 'Canu Aneirin' (1938) a 'Canu Taliesin' (1960).
Syr Ifor Williams (1881-1965), 27 Chwefror 1958