Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Crefydd a Chred » Enwadau anghydffurfiol » Gweinidogion a phregethwyr
  • Awdur y llythyr hwn yw Charles de Gaulle, ewythr yr enwog Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc.  Anfonwyd y llythyr at y Parchedig John Peter (Ioan Pedr), a oedd yn cydweithio gyda'r Parch Michael D. Jones yng Ngholeg Annibynnol y Bala.  Roedd de Gaulle yn ysgolhaig Celtaidd o fri ac yn y llythyr hwn, mae'n sôn am y gwahanol erthyglau a'r llyfrau y mae wedi eu cyhoeddi.  Dywed wrth Ioan Pedr ei fod wedi anfon copi o un o'i lyfrau ato a bydd yn anfon mwy o ysgrifau ato cyn bo hir.  Nid yw'n credu fod ei waith o unrhyw werth gwirioneddol, ond mae'n eu hanfon at Ioan Pedr fel arwydd o barch a diolchgarwch.
Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]
Portread o Mr Howells, pregethwr Methodistaidd, Abertawe, gan George O. Delamotte, 1820
  • Llw a gymrwyd gan weinidog gyda'r Anghydffurfwyr, sef William Hughes, Bryn Cedda, plwyf Llanwnda.
Llw Gweinidog gyda'r Anghydffurfwyr, 1795
  • Cafodd y cerflun hwn o'r Parchedig Thomas Charles (1755-1814) ei gerfio gan William Davies (Mynorydd) a'i ddadorchuddio ym 1872 y tu allan i gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref y Bala, lle'r ymsefydlodd Charles ym 1783.  Thomas Charles oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yng Nghymru.  Sefydlodd nifer o ysgolion Sul cylchynol a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu'r Gymdeithas Feiblau ym 1804.  Ef oedd yn gyfrifol am olygu Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas honno ac erbyn ei farwolaeth ym 1814, amcangyfrifir iddo gyhoeddi a dosbarthu tua 320,000 o lyfrau ymhlith ei gyd-Gymry.
Cofgolofn y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), Y Bala
  • Mary Jones (Lloyd cyn priodi) oedd trydedd gwraig y Parchedig Thomas Jones, Dinbych (1756-1820), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.  Tynnodd Hugh Hughes lun tebyg o'i gŵr - peintiwyd y ddau bortread ar ifori.
Mân-ddarlun dyfrlliw o Mary Jones gan Hugh Hughes, tua'r flwyddyn 1812
  • Y Parchedig Thomas Jones, Dinbych (1756-1820), awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.  Tynnodd Hugh Hughes lun tebyg o'i wraig, Mary Lloyd - peintiwyd y ddau bortread ar ifori.
Mân-ddarlun dyfrlliw o'r Parchedig Thomas Jones, Dinbych, gan Hugh Hughes, tua'r flwyddyn 1812