Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Cyfraith a Threfn » Dulliau eraill o gosbi » Gosb Eithaf, Y

Canlyniadau 1 i 6 allan o 9

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Dr Price a Robert Anderson, ffrind a oedd yn grogwr i Sir Gaerfyrddin yn ôl pob sôn.  Ef a gynnodd y goelcerth yn amlosgiad Dr Price ym 1893.
Dr William Price a Robert Anderson, 1892
  • Mae'r 'Llyfr Ymwelwyr' hwn yn rhestru enwau'r bobl a fu'n ymweld â charcharorion yng Ngharchar Biwmares.  Ar y tudalennau sy'n dilyn, gwelir enwau'r bobl rheini a ddaeth i weld Richard Rowlands, carcharor a gafwyd yn euog o lofruddio ei dad-yng-nghyfraith yn Llanfaethlu.  Cafodd Rowlands ei ddedfrydu i farwolaeth ac ef oedd yr ail garcharor - a'r olaf - i gael ei grogi'n gyhoeddus yng Ngharchar newydd Biwmares yn Ebrill 1862.  Rhoddwyd caniatâd i nifer o bobl ymweld â Rowlands yn ystod y dyddiau cyn iddo gael ei grogi.  Roedd yr ymwelwyr hyn yn cynnwys ei wraig, ei fab a'i berthnasau agos a nifer o weinidogion a fu'n gweddïo gydag ef.
Llyfr Ymwelwyr Carchar Biwmares, 1862-78 [clawr, delwedd 1 o 3]
  • Mae'r faled hon yn adrodd hanes dienyddiad William Murphy, y gŵr olaf i gael ei grogi yng ngharchar Caernarfon.  Dienyddiwyd Murphy ar 15 Chwefror 1910 am lofruddio Gwen Ellen Jones yng Nghaergybi ar ddydd Nadolig, 1909.  Dedfrydwyd ef i farwolaeth ym Mrawdlys Biwmares ar 25 Ionawr 1910.
Baled 'Dienyddiad Murphy', 1910 [delwedd 1 o 4]
  • Derbyniodd y ddwy wraig bardwn yn y pen draw a lleihawyd y gosb i flwyddyn o garchar.
Cafodd Elizabeth a Jane Baines eu dyfarnu'n euog o greu'r arian papur ffug hwn ac fe'u dedfrydwyd i farwolaeth, 1818 [blaen]
  • Yn y llythyr hwn, mae maer Caerfyrddin yn clywed fod Mr John Lees, un o archwilwyr arian papur Banc Lloegr, am gael ei anfon i Gaerfyrddin i helpu gyda'r ymchwiliad i'r achos yn erbyn Elizabeth a Jane Baines.

Adysgrif:

London 13th Dec. 1817

Sir
The Government of the Bank of England has desired us to acknowledge the Rect. of your Letter of the 11th inst. & to thank you for your prompt attention to the subject to which it refers. We have given directions to W. John Lees, one of the Inspectors of Bank Notes at the Bank of England, to set out immediately for Carmarthen to assist in the investigation of the Case, & in collecting thee requisite evidence to bring the offenders to Justice. Mr. Lees has had great experience in ___ of this kind, and we have given him full instructions, so that you will find him a very useful assistant & you will please to deliver to him the forged Bank Notes ___ the Paper blotter things found upon the Prisoners or in their house.
Llythyr a anfonwyd ar ran Banc Lloegr at Faer Caerfyrddin ynglŷn ag achos ffugio arian y chwiorydd Baines, dyddiedig 13 Rhagfyr 1817 [delwedd 1 o 3]
  • Ar yr 17eg Chwefror, 1903, cafodd William Hughes, glöwr yn Wrecsam, oedd yn wreiddiol o Ddinbych, ei ddyfarnu'n euog o saethu ei wraig ac fe'i crogwyd yng Ngharchar Rhuthun.  Mae cell y grog yn dangos William Hughes yn aros i gael ei ddienyddio.  Ar ddydd y dienyddiad  tua 15 llath yn unig oddi wrth y gell y byddai'r crocbren wedi bod.  Hefyd, roedd twll wedi cael ei fwrw trwy wal allanol y gell yn arwain i ail lawr y crocbren, fel nad oedd gan y carcharor ond ychydig gamau i gerdded yn y diwedd.  Cofnodid mai'r peth olaf a wnaeth Hughes cyn gadael ei gell oedd edrych ar ffotograff o'i deulu.  Cyn belled ag y gwyddys, William Hughes oedd yr unig un i gael ei grogi yng Ngharchar Rhuthun.
Cell y grog, Carchar Rhuthun, Sir Ddinbych