Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Cymuned a Chymdogaeth » Adeiladau a mannau cyhoeddus » Cofebion a cherrig coffa
  • Cynlluniwyd cofeb Evan a James James gan y cerflunydd Cymreig W. Goscombe John (1860-1952).  Dadorchuddiwyd y gofeb ym Mharc Ynysangharad gan Arglwydd Treowen gerbron torf o 10,000 ym 1930.

Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth a hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy.  Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc.  Evan James a'i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856.  Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef  a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw.  Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith.  Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol Cymru.
Seremoni dadorchuddio cofeb Evan a James James, cyfansoddwyr 'Hen Wlad Fy Nhadau', Pontypridd, 1930

  • Dadorchuddiwyd y plac i goffáu'r fan lle cyfansoddwyd anthem genedlaethol Cymru gan Evan James a James James ar 17 Medi 1931.  Cyfansoddwyd yr anthem ym 1856.

Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth ac hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy.  Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc.  Evan James a'i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856.  Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef  a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw.  Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith.  Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol Cymru.  Dadorchuddiwyd cofeb, o waith W. Goscombe John, i gofio am Evan a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym 1930.
Dadorchuddio plac yn coffáu'r fan lle y cyfansoddwyd 'Hen Wlad Fy Nhadau', Pontypridd, 1931
  • Gwelir yr Arglwydd Rhaglan yma yn dadorchuddio Cofeb Rolls yn Agincourt Square ar 19 Hydref 1911.  Cynlluniwyd y gofeb gan y cerflunydd William Goscombe John.
Dadorchuddio Cofeb Rolls ar Sgwâr Agincourt, Trefynwy, 1911
Sgwâr Agincourt, Trefynwy, gyda cherflun o Charles Rolls, tua'r flwyddyn 1912
  • Cafodd y cerflun hwn o'r Parchedig Thomas Charles (1755-1814) ei gerfio gan William Davies (Mynorydd) a'i ddadorchuddio ym 1872 y tu allan i gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref y Bala, lle'r ymsefydlodd Charles ym 1783.  Thomas Charles oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yng Nghymru.  Sefydlodd nifer o ysgolion Sul cylchynol a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu'r Gymdeithas Feiblau ym 1804.  Ef oedd yn gyfrifol am olygu Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas honno ac erbyn ei farwolaeth ym 1814, amcangyfrifir iddo gyhoeddi a dosbarthu tua 320,000 o lyfrau ymhlith ei gyd-Gymry.
Cofgolofn y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), Y Bala