Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Diwydiant » Diwydiant glo » Fframiau pen pwll

Canlyniadau 1 i 6 allan o 15

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Nesaf

Glofa Taf Merthyr
Ffrâm pen pwll, Glofa Cefn Coed
  • Yma gwelir y mur cynhaliol yr adeiladwyd y pwll glo ar ei ben.  Y tu hwnt i'r mur gwelir y ddwy ffrâm pen pwll, simnai'r boeler a'r prif adeiladau.
Golygfa gyffredinol o Lofa Cefn Coed, Y Creunant
  • Yma gwelir y storfa drydan, yr uned gywasgu a'r peiriandy weindio.  Yng nghanol y llun gwelir simnai'r boelerdy, ac i'r chwith mae ffrâm ogleddol pen y pwll.
Yr adeiladau sydd yn dal i sefyll yng Nglofa Cefn Coed, Y Creunant
  • Roedd y ffrâm ogleddol, a welir ym mlaen y llun, yn cynnwys awyrydd a fyddai'n sugno aer o'r pwll.  Byddai aer ffres yn cael ei sugno i mewn i'r pwll gan siafft o dan y ffrâm ddeheuol ('down-cast shaft').
Fframiau pen pwll Glofa Cefn Coed, Y Creunant
Golygfa o'r glofeydd yn Hughesovka yn dangos yr offer weindio, tua 1913