Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Diwydiant » Diwydiant glo » Offer weindio

Canlyniadau 1 i 6 allan o 9

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Yma gwelir y storfa drydan, yr uned gywasgu a'r peiriandy weindio.  Yng nghanol y llun gwelir simnai'r boelerdy, ac i'r chwith mae ffrâm ogleddol pen y pwll.
Yr adeiladau sydd yn dal i sefyll yng Nglofa Cefn Coed, Y Creunant
  • Dyma'r unig enghraifft hysbys o injan capstan a wnaed yng Nghymru.  Prynwyd yr injan ym 1926-7 ac fe'i defnyddiwyd yn ystod y gwaith o suddo Glofa Cefn Coed.  Yn dilyn hynny, cafodd yr injan ei ddefnyddio fel weindiar wrth-law, a byddai'n cael ei ddefnyddio pan fyddai problemau'n codi gyda'r prif beiriannau.
Weindiwr Cubitt Rhondda, Glofa Cefn Coed, Y Creunant
  • Cafodd yr injan ager hwn ei gynhyrchu yn Wigan ym 1927.  Dyma'r unig injan weindio ager ym maes glo carreg de Cymru sy'n dal i weithio ac fe'i defnyddiwyd i dynnu'r caets i fyny ac i lawr siafft y lofa.
Injan weindio Worsley Mesne, Glofa Cefn Coed, Y Creunant [delwedd 1 o 3]
Golygfa o'r glofeydd yn Hughesovka yn dangos yr offer weindio, tua 1913
  • Dioddefodd Glofa'r Albion un o drychinebau glofaol gwaethaf Prydain.  Ar 23 Mehefin 1894 lladdwyd 281 o ddynion a bechgyn yn dilyn ffrwydriad enfawr yn y pwll.  Bu ffrwydriad arall yn y lofa ar 10 Tachwedd 1906 pan lladdwyd chwech o ddynion.

Agorwyd y lofa ym 1887 gan Gwmni Glo Ager yr Albion.  Bu'r lofa yn eiddo i Gwmni Powell Duffryn yn ddiweddarach cyn cael ei throsglwyddo i ddwylo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1947.  Caewyd y lofa ym 1966.


Darllen pellach:
http://www.welshcoalmines.co.uk/Photo.htm
Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar ôl y ffrwydriad ym 1894
  • Yma gwelir offer weindio 'Dan's Muck Hole', yng nglofa Pwllgwaun, Pontypridd.  Cafodd y lofa ei henwi ar ôl Dan Thomas, ac roedd y siafft yn mesur 45 llath o ddyfnder yn unig.   Roedd hefyd yn bosibl i gael mynediad i'r lofa ar hyd lefel a oedd yn dechrau o safle presennol eisteddle Clwb Rygbi Pontypridd yn Heol Sardis.  Cloddiwyd glo yn y lofa hon rhwng 1873 a 1950.


Ffynhonnell:
'The Old Photographs Series: Pontypridd', wedi eu dethol o Gasgliad Canolfan Hanes a Threftadaeth Pontypridd gan Simon Eckley a staff y Ganolfan (Chalford Publishing, Stroud, 1994).
'Dan's Muck Hole', Glofa Pwllgwaun, Pontypridd, tua 1913