Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Diwydiant » Gweithgynhyrchu (ac eithrio metel) » Ffatrïoedd
  • Cafodd cwmni Western Biscuits ei annog gan y llywodraeth i sefydlu ffatri yn Llantarnam fel modd o leddfu effeithiau'r dirwasgiad yn y diwydiannau trymion yn ystod yr 1930au.
Ffatri Weston Biscuits, Llantarnam, 1938
  • Roedd Mr Weston a'r Arglwydd Nuffield yn bresennol ar achlysur agor Ffatri Weston Biscuits.  Cyfrannodd Gronfa Nuffield £33,000 i'r prosiect a chyrhaeddodd yr Arglwydd Nuffield, perchennog gweithfeydd ceir Morris, yn un o'i geir.
Agor ffatri Weston Biscuits, Llantarnam, 1938
  • Cafodd gweithfeydd Falf Saunders eu hannog gan y llywodraeth i sefydlu eu ffatri yn Llantarnam fel modd o leddfu effeithiau'r dirwasgiad yn y diwydiannau trymion yn ystod yr 1930au.

Rhoddodd y Tryslorlys £30,000 o grant i'r gweithfeydd dan gynllun Deddf Ardaloedd Arbennig 1937.  Am y tro cyntaf felly roedd modd cwblhau yr holl gamau yn y broses weithgynhyrchu, dan un to a throi haearn crai yn falfiau gorffenedig.
Agor Gweithfeydd Falf Saunders, 1939
  • Roedd Gwaith Ffrwydron Cooke, Penrhyndeudraeth yn cyflogi 600 o bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Caewyd y ffatri yn ystod yr 1990au a chliriwyd y safle a'i droi'n warchodfa natur.
Awyrlun o Waith Ffrwydron Cooke, Penrhyndeudraeth, 1995
  • Roedd Gwaith Ffrwydron Cooke, Penrhyndeudraeth yn cyflogi 600 o bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Caewyd y ffatri yn ystod yr 1990au a chliriwyd y safle a'i droi'n warchodfa natur.
Awyrlun o Waith Ffrwydron Cooke, Penrhyndeudraeth, 1996
Awyrlun o safle Ffatri Dunlop Semtex, Brynmawr, 1992