Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Addysg » Ysgolion » Ysgolion rhad/elusennol

Canlyniadau 1 i 5 allan o 5

Tudalen 1

  • Roedd Bridget Bevan neu Madam Bevan (1698-1779) yn wraig ddylanwadol ym maes addysg yng Nghymru.  Roedd yn ferch i John Vaughan, Derllys, a oedd yn ddyngarwr a noddwr yr S.P.C.K (the Society for the Promotion of Christian Knowledge).  Roedd yn wraig grefyddol iawn a dechreuodd gwaith ei bywyd ym 1731 wrth iddi gynorthwyo ei ffrind, Griffith Jones, pregethwr a diwygiwr enwog, i sefydlu ysgol arbrofol yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin.  Dyma'r cyntaf o blith yr Ysgolion Cylchynol Elusennol Cymraeg.  Cyfrannodd Madam Bevan symiau helaeth o arian at yr ysgolion hyn, a oedd yn symud o bentref i bentref ac a oedd yn darparu addysg am ddim i oedolion yn ogystal â phlant.  Roedd yr holl waith yn yr Ysgolion Cylchynol yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg.  Cymerodd Madam Bevan gyfrifoldeb am yr ysgolion wedi marwolaeth Griffith Jones ym 1761.  Roedd ei annibyniaeth meddwl a'i gweithredoedd yn anarferol iawn yn ystod y ddeunawfed ganrif yng Nghymru.  Fe'i gwelir yn y portread hwn yn dal llyfr gweddi wedi'i agor ar Salm 73.  Peintiwyd y portread hwn gan John Lewis, a oedd yn gweithio fel peintiwr portread crwydrol yn Lloegr, Cymru ac Iwerddon.  Eisteddodd aelodau eraill o'r teulu Vaughan ar gyfer yr arlunydd hwn ar y pryd.  Parhaodd y portreadau teuluol yng nghartref y teulu, Derwydd, hyd nes iddynt gael eu gwerthu a'u gwasgaru yn arwerthiant y tŷ a'i gynnwys ym 1998.  Olew ar gynfas.  Mesuriadau: 124.5 x 99cm.
Portread o Madam Bevan gan John Lewis, 1745 (olew)
  • Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.
Ysgol Madam Bevan, Trefdraeth, Sir Benfro, tua'r flwyddyn 1885
Rheolau Ysgol Elusennol a sefydlwyd ym mhlwyf Trefynwy, 1805 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]
  • Dyddiadur ar gyfer y cyfnod 9-16 Awst 1747.
Ar 13 Awst, aeth William i ymweld ag ysgol gylchynol a oedd yn cael ei chynnal yn 'Caban house'.  Yno, roedd y plant yn cael eu dysgu i ddarllen Cymraeg.  Roedd yr ysgol hon yn un o'r 'ysgolion cylchynol' a sefydlwyd gan Griffith Jones, Llanddowror, ym 1731.  Cyfeiria William at y ffaith fod yr ysgol yn derbyn cefnogaeth gan Saeson a gwŷr de Cymru yn bennaf.  Cyfeiria hefyd at wrthwynebiad yr Eglwyswyr i'r ysgolion cylchynol: 'The clergy are generally all against these itinerant Schools & do all they can to depreciate them, calling them the nurseries of the Methodists, but they keep their ground in severall parts of the Countrey in spite of all the resistance they give them'.
Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, cyf. 3, 1747-60 [t. 39, delwedd 2 o 8]
  • Adran ar 'The First Day Schools in Wales'.
'Historical notes of the Counties of Glamorgan, Carmarthen & Cardigan', gan John Rowlands, 1866, tudalen 62 [delwedd 25 o 34]