Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Erthyglau

Hafan » Erthyglau » Darluniau gan yr arlunydd na

Darluniau gan yr arlunydd naïf a adwaenid fel 'A Welsh Primitif'

Casgliad o 22 o luniau o olygfeydd yng ngogledd Sir Aberteifi, c. 1840, a dynnwyd, fwy na thebyg, gan yr arlunydd naïf a adwaenid fel 'A Welsh Primitif' [sic.]

Porwch y thema hon

Ar y cyfan, roedd arlunwyr naïf yn hunanaddysgiedig a byddent yn peintio'n uniongyrchol ar gynfasau heb fraslunio na myfyrio'n gyntaf. Byddent yn aml yn canolbwyntio ar ddarlunio anifeiliaid, pobl a gwrthrychau o waith dyn.

 

Roedd yr arlunydd naïf hwn, a adweinir fel 'A Welsh Primitif', yn gweithio'n bennaf yn ardal Aberystwyth ac adlewyrchir ei ddiddordeb ym mywydau pob dydd y bobl gyffredin mewn peintiadau megis 'A Fountain near Aberystwyth'.

 

Roedd gan yr arlunydd hwn ddiddordeb hefyd yn y tirluniau a'r pictiwrésg. Roedd hyn yn anarferol i arlunydd naïf ond mae'n gwneud ei waith yn arbennig o ddeniadol. Yn ôl Peter Lord, dylid ystyried y lluniau hyn yn 'masterpieces of naive painting'.

 

Mae Peter Lord hefyd yn tynnu sylw at fanylion yn y peintiadau sydd o bosibl yn taflu goleuni pellach ar yr arlunydd ei hun. Yn nhu blaen y peintiad, 'Fall on the Rheidol', gwelir arlunydd wrth ei waith mewn côt las. Os credir mai hunan bortread yw hwn, yna gellir dweud mai dyn oedd yr arlunydd.

 

[Yn seiliedig ar 'Gwenllian: Essays on visual culture', gan Peter Lord, 1994, tudalennau 87-88]