Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Erthyglau

Hafan » Erthyglau » Gwefan Glaniad » Gwefan Glaniad
  • Roedd Charles de Gaulle yn ysgolhaig Celtaidd o fri ac yn ewythr i'r Charles de Gaulle a ddaeth yn Arlywydd Ffrainc.  Roedd Charles de Gaulle yn gefnogol i'r syniad o sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, ac ar gefn y ffotograff hwn ceir cyfarchiad i'r Parch. Michael D. Jones, un o arweinwyr y mudiad gwladfaol.
Charles de Gaulle, 1869 [delwedd 1 o 2]
  • Cafodd Richard Robert Jones o Drelawnyd, Sir y Fflint, ei gofrestru fel myfyriwr yn y coleg ar 9 Hydref 1891.  Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng ngogledd Cymru am rai blynyddoedd cyn symud i weinidogaethu yn Chubut, Patagonia, ym 1912.
Cofrestr cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1884-92 [t. 461, delwedd 21 o 22]
  • Yn rheolau Cymdeithas Ymfudol y Cymry, a ffurfiwyd yn Ffestiniog ym 1880, nodir mai ei hamcan yw 'r[h]oddi cynorthwy i'r Cymry i ymfudo i'r un man, sef Patagonia, ac nid cynorthwyo y genedl Gymreig i ymwasgaru i bob cwr o'r byd'.
Rheolau Cymdeithas Ymfudol y Cymry, 1880au [delwedd 1 o 3]
  • Cyhoeddodd Michael D. Jones draethawd o dan y teitl 'Gwladychfa Gymreig' yn y papur Cymraeg 'Baner Cymru' ar ddechrau 1859.  Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffled.
Tocyn i ddarlith gan y Parch. Michael D. Jones, Y Bala, ar y testun 'Gwladychfa Gymreig', c.1860
  • Rhestrir enwau naw o ymgeiswyr ar gyfer cyngor llywodraethol y Wladfa Gymreig ar y papur pleidleisio.  Gofynnir i'r etholwr neu etholwraig ddewis saith o'r rhestr a rhoi llinell trwy'r enwau eraill.  Nodir hefyd y bydd yr aelod etholedig gyda'r nifer leiaf o bleidleisiau yn dal ei swydd am flwyddyn yn unig.

Pan sefydlwyd y Wladfa Gymreig ym 1865, roedd dynion a menywod dros ddeunaw oed a oedd wedi preswylio yno am flwyddyn neu fwy yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cyngor.  Er bod y Wladfa yn rhan o weriniaeth Ariannin, roedd ei threfn wleidyddol ymhlith y mwyaf democrataidd yn y byd yn y cyfnod hwnnw.
Papur pleidleisio ar gyfer etholiad a gynhaliwyd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, 1876
  • Arwerthwyd yr eitemau canlynol: 50 o geffylau, 20 o ychain, 7 o fenni (wagenni), ac offer amaethyddol.  Yr arwerthwr oedd R. J. Berwyn (1836-1917).
Poster arwerthiant a gynhaliwyd yn Nhrelew, Patagonia, 19eg ganrif