Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Erthyglau
Hafan » Erthyglau » Paentiadau gan Charles Byrd (1916-)Paentiadau gan Charles Byrd (1916-)
Detholiad o baentiadau gan yr arlunydd Charles Byrd (1916-), sydd wedi cael eu cyflwyno i Lyfrgell Ganolog Caerdydd gan yr artist.
Detholiad o baentiadau gan yr arlunydd Charles Byrd (1916-), sydd wedi cael eu cyflwyno i Lyfrgell Ganolog Caerdydd gan yr artist.
Cafodd Charles Byrd ei eni ym Mhontypridd ym 1916. Cafodd ei hyfforddi'n beiriannydd, ond daeth yn arlunydd amser-llawn ym 1950. Trwy gydol y 1950au a dechrau'r 1960au bu'n cynhyrchu'r math o waith a welir yn y casgliad hwn - gweithiau ffiguraidd, manwl iawn, gyda nodweddion ffres a naďf, yn darlunio golygfeydd o fywyd bob dydd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, lle mae wedi byw a gweithio ar hyd ei fywyd. Yn ystod y 1960au trôdd Byrd ei gefn ar yr arddull hwn. Dechreuodd arbrofi gyda themâu haniaethol, gan symud yn y pen draw i faes cerflunwaith symudol, ac mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus heddiw am ei waith yn y maes hwn. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld mewn casgliadau cyhoeddus ledled Cymru.
