Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Iechyd, Lles ac Elusen » Elusennau a dyngarwch » Madam Bevan (1698-1779)

Canlyniadau 1 i 2 allan o 2

Tudalen 1

  • Roedd Bridget Bevan neu Madam Bevan (1698-1779) yn wraig ddylanwadol ym maes addysg yng Nghymru.  Roedd yn ferch i John Vaughan, Derllys, a oedd yn ddyngarwr a noddwr yr S.P.C.K (the Society for the Promotion of Christian Knowledge).  Roedd yn wraig grefyddol iawn a dechreuodd gwaith ei bywyd ym 1731 wrth iddi gynorthwyo ei ffrind, Griffith Jones, pregethwr a diwygiwr enwog, i sefydlu ysgol arbrofol yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin.  Dyma'r cyntaf o blith yr Ysgolion Cylchynol Elusennol Cymraeg.  Cyfrannodd Madam Bevan symiau helaeth o arian at yr ysgolion hyn, a oedd yn symud o bentref i bentref ac a oedd yn darparu addysg am ddim i oedolion yn ogystal â phlant.  Roedd yr holl waith yn yr Ysgolion Cylchynol yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg.  Cymerodd Madam Bevan gyfrifoldeb am yr ysgolion wedi marwolaeth Griffith Jones ym 1761.  Roedd ei annibyniaeth meddwl a'i gweithredoedd yn anarferol iawn yn ystod y ddeunawfed ganrif yng Nghymru.  Fe'i gwelir yn y portread hwn yn dal llyfr gweddi wedi'i agor ar Salm 73.  Peintiwyd y portread hwn gan John Lewis, a oedd yn gweithio fel peintiwr portread crwydrol yn Lloegr, Cymru ac Iwerddon.  Eisteddodd aelodau eraill o'r teulu Vaughan ar gyfer yr arlunydd hwn ar y pryd.  Parhaodd y portreadau teuluol yng nghartref y teulu, Derwydd, hyd nes iddynt gael eu gwerthu a'u gwasgaru yn arwerthiant y tŷ a'i gynnwys ym 1998.  Olew ar gynfas.  Mesuriadau: 124.5 x 99cm.
Portread o Madam Bevan gan John Lewis, 1745 (olew)
  • Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.
Ysgol Madam Bevan, Trefdraeth, Sir Benfro, tua'r flwyddyn 1885