Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Diwydiant » Diwydiant llechi » Chwarel Dinorwig
Awyrlun o Chwarel Dinorwig, Llanberis, 1994
  • Cafodd y cynghorion iechyd hyn eu cyflwyno gerbron chwarelwyr Dinorwig gan R. H. Mills, meddyg y chwarel, ym mis Awst 1894.  Yn ei sylwadau, cyfeiriodd Mills yn benodol at yr agweddau canlynol ar fywyd y chwarelwyr: 1) cartrefi'r chwarelwyr; 2) dillad y chwarelwyr; 3) glendid personol; 4) deiet y chwarelwyr.   Roedd Mills yn hynod feirniadol o ddeiet y chwarelwyr ac fe wnaeth eu hannog i amrywio eu bwyd ac i fwyta 'rhywbeth heblaw Te a Bara Menyn' - 'Cofiwch nad oes dim maeth mewn te'. Fe'u hanogwyd i amrywio'u bwyd gan fwyta ceirch, bara ceirch, cawl, llaeth, coco a llysiau o'r ardd.
Cyngor a roddwyd i chwarelwyr Dinorwig gan feddyg y chwarel, 1894
  • Taflen a chân ynghylch yr anghydfod yn Chwareli Dinorwig, Llanberis, a ddechreuodd ym mis Hydref 1885.  Yn ystod y misoedd blaenorol, roedd perthynas y chwarelwyr â'r rheolwyr wedi dirywio'n enbyd: roedd cryn anfodlonrwydd ynghylch yr amodau gwaith a cheid honiadau bod y rheolwyr yn gweithredu'n annheg ac yn dangos ffafriaeth at rai gweithwyr.  Fe aeth pethau i'r pen ar 23 Hydref, ddeng niwrnod ar ôl i'r chwarelwyr gynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod eu cwynion, pan dderbyniwyd neges gan y rheolwyr yn gorchymyn pob chwarelwr a fu yn y cyfarfod hwnnw i adael ei waith ar unwaith.  Fel y dengys y daflen hon, bu'r cyfnod hwn yn un anodd iawn i'r 2,700 o chwarelwyr a'u teuluoedd.  Parhaodd yr anghydfod am bum mis tan 1 Mawrth 1886, pan ildiodd y chwarelwyr i ofynion y rheolwyr a dychwelyd i'r gwaith.
Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]
Awyrlun o Chwarel Lechi Dinorwig, 1999
  • Rhestr o'r damweiniau yn chwarel Dinorwig a chwarel y Penrhyn yn ystod y cyfnod 1822-79.  Mae'r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn seiliedig ar adroddiadau a ymddangosodd ym mhapur newydd 'Yr Herald Cymraeg'.
Cynauaf Damwain: sef Rhestr o'r Damweiniau yn Chwarelau Dinorwig a'r Penrhyn (Caernarfon, [1879]), [clawr, delwedd 1 o 20]
  • Ffotograffau du a gwyn (25) o Weithdai Chwarel Dinorwig, Gilfach Ddu, Llanberis, 1969.
Ffotograffau o weithdai Chwarel Dinorwig, Llanberis, 1969