Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English

Croeso i Gasglu'r Tlysau.

Mae'r wefan yn cynnwys dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru.

Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1963

Casgliad o 55 o luniau a dynnwyd gan Geoff Charles ym mis Chwefror 1963, ar achlysur protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan, Aberystwyth.

Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1963
Porwch y thema hon


Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 1962, mewn ymateb i ddarlith radio enwog Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith' a ddarlledwyd ar 13 Chwefror 1962. Yn ogystal â bod yn llenor a dramodydd adnabyddus, roedd Lewis yn genedlaetholwr blaenllaw ac ef oedd llywydd Plaid Genedlaethol Cymru rhwng 1926 a 1939. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, ciliodd Lewis o fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ond ar ôl cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 1961 a ddatgelodd mai 26 y cant yn unig o'r boblogaeth a oedd yn siarad Cymraeg, penderfynodd ddychwelyd i'r llwyfan cyhoeddus. Yn ei ddarlith, 'Tynged yr Iaith', amlinellodd yr argyfwng a oedd yn wynebu'r iaith Gymraeg a galwodd ar siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu dulliau anghyfansoddiadol o blaid yr iaith.

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 1962 mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Cynhaliodd y gymdeithas ei phrotest swyddogol gyntaf ar 2 Chwefror 1963 yn Aberystwyth. Eisteddodd tua 40 o aelodau a chefnogwyr yng nghanol y ffordd ar bont Trefechan, gan rwystro llif y traffig am hanner awr. Mae'r thema hon yn cynnwys 55 ffotograff a dynnwyd gan Geoff Charles ar ddiwrnod y brotest.