"Whiskey" y Bergi, 19eg ganrif

Defnyddiwyd bergwn hyd at ganol y 19eg ganrif fel modd o arbed y cogyddion yn y cartrefi mawr rhag troi'r cig ar gigwain â llaw. Byddai'r ci yn cael ei osod mewn olwyn fechan oedd yn gysylltiedig â'r gigwain ac wrth iddo redeg byddai'r gigwain yn troi. Er mwyn osgoi gorweithio'r ci gyda'r gwaith poeth ac annymunol hwn, yn aml cadwyd hwy mewn parau er mwyn iddynt weithio mewn shifftiau. Credir mai dyma yw tarddiad y ddihareb 'daw haf i gi' (every dog has his day). 'Whiskey' yw'r enghraifft olaf o fergi sydd wedi goroesi, er ei fod wedi'i stwffio. Ymddengys bod y brîd wedi diflannu gyda dyfodiad peiriannau'r gegin. Ffynhonnell: Cunliffe, J (1991) 'The Turnspit'. Kennel Gazette, tudalennau 20-22.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01748

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa y Fenni (Cyfeirnod yr eitem: A.193.0).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma