Y gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun

Y gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun Ganed y bardd Idris Davies (1905-53) yn Rhymni, Sir Fynwy. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio i'r pwll glo lleol. Caewyd y lofa honno yn dilyn Streic Gyffredinol 1926 ac fe hyfforddodd Davies fel athro. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth ac fe gyhoeddwyd amryw o'i gerddi yn ystod y 1930au mewn gwahanol gyhoeddiadau. Yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 'Gwalia Deserta' (1938), canolbwyntiodd Davies ar effaith y dirwasgiad ar gymunedau diwydiannol de Cymru. Yn ei ail gyfrol, 'The Angry Summer' (1943), ysgrifennodd un gerdd hir yn croniclo profiadau'r cymunedau diwydiannol rheini yn ystod Streic Gyffredinol 1926. Dychwelodd Davies i Gwm Rhymni i weithio fel athro ym 1947. Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf o farddoniaeth, 'Selected Poems', yn fuan cyn ei farwolaeth.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01715

Daw'r eitem hon o: Pencadlys Llyfrgelloedd Caerffili (Cyfeirnod yr eitem: Rhymney Library: Local Studies Collection - Llyfrgell Rhymni: Casgliad Astudiaethau Lleol).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Ffasiynau

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Y gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hunY gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hunY gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hunY gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hunY gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hunY gerdd 'Rhymney Hill' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun