Cap Mynwy, 16eg ganrif

Cap Mynwy, 16eg ganrif Roedd gwneuthurwyr capiau yn gweithio ym Mynwy mor gynnar â 1449, ond yn ystod Oes y Tuduriad gwelwyd y diwydiant yn ffynnu yn y dref. Mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw 'Cap Mynwy' i'w ganfod mewn llythyr sy'n dyddio o 1576. Erbyn y cyfnod hwn roedd y diwydiant ar ei anterth ym Mynwy, ond yn sgil deddfwriaeth newydd a oedd yn noddi'r diwydiant drwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd nifer o drefi eraill hefyd wedi dechrau cynhyrchu capiau gwau. Roedd capiau Mynwy yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o wisg milwyr a morwyr yr ail ganrif ar bymtheg, er nad oeddynt bellach yn cael eu cynhyrchu ym Mynwy. Daeth capiau Mynwy mor gyfarwydd a chyffredin fel iddynt gael eu cymryd yn ganiataol. Roedd pawb yn gwybod yn union beth oedd 'cap Mynwy', a phrin felly yw'r disgrifiadau ysgrifenedig o'r cap. Ar sail y cyfeiriadau prin hynny, gwyddys bod y capiau wedi cael eu gwau a'u bod yn grwn, o liw brown, a gyda 'botwm' ar y corun. Credir bod yr het a ddangosir yma yn 'gap Mynwy' gwreiddiol, yr unig enghraifft sydd wedi goroesi, sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ffynhonnell: Paneli arddangos, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01788

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson (Cyfeirnod yr eitem: NM&LHC).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Cap Mynwy, 16eg ganrifCap Mynwy, 16eg ganrifCap Mynwy, 16eg ganrif