Ffrâm gerdded, Coed-duon, 19eg ganrif
Defnyddiwyd fframiau cerdded gan fabanod a phlant o'r oesoedd canol ymlaen, ond mae'r enghreifftiau sydd wedi goroesi yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd nifer o gynlluniau gwahanol eu cynhyrchu, ond mae'r enghraifft sgwâr hon yn syml iawn gyda cholyn ar y rhan uchaf. Mae'r ffrâm cerdded hwn yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe ddaw o Goed-duon, Sir Fynwy.
Cyfeirnod yr eitem: : GTJ31483





