Darlun lliw o'r Fari Lwyd

Darlun lliw o'r Fari Lwyd Mari Lwyd yw'r enw a roed fynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partďon 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig. Y mae'r ffigur yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill. Ymddengys fod y 'Fari Lwyd' yn adnabyddus iawn ar un adeg yn hanner deheuol Cymru ond erbyn yr ugeinfed ganrif anaml y'i gwelwyd y tu allan i Forgannwg, lle nad yw eto wedi llwyr ddiflannu. Cafodd y darlun lliw hwn o'r Fari Lwyd ei wneud gan Thomas Davies, Pen-tyrch, ym 1932, ac mae'n dangos y Fari Lwyd a ddefnyddiwyd gan ei deulu er 1897. Byddai lliain gwyn yn cael ei osod dros y benglog a'i addurno gyda rhubanau lliw, gyda llygaid gwydr. Mae'r 'Fari Lwyd' wreiddiol bellach i'w gweld yn y brif oriel arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ31649

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Werin Cymru (Cyfeirnod yr eitem: 33.4.1).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Pentrefi

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Darlun lliw o'r Fari LwydDarlun lliw o'r Fari LwydDarlun lliw o'r Fari LwydDarlun lliw o'r Fari LwydDarlun lliw o'r Fari LwydDarlun lliw o'r Fari Lwyd