Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Newyddion diweddaraf
Hafan » Latest NewsPenblwydd Hapus Casglu’r Tlysau!
Yn wythnos gyntaf mis Awst roedd gwefan newydd Casglu’r Tlysau yn dathlu ei phenblwydd yn flwydd oed. Yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd y llynedd lansiwyd y wefan ar ei newydd wedd gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones. Hefyd yn bresennol oedd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dafydd Wigley, yr Is-Lywydd Arwel Ellis Owen a’r Llyfrgellydd Andrew Green.
R’yn ni’n gobeithio fod nodweddion newydd y wefan, y system chwilio ddaearyddol (GIS) yn arbennig, wedi hwyluso mynediad defnyddwyr i drysorau hanesyddol a diwylliannol Cymru. Erbyn heddiw mae dros 30,000 o ddelweddau ar y wefan a rheiny yn ymwneud â phob cwr o Gymru.
Yn yr un modd ag y mae Casglu’r Tlysau wedi esblygu dros y flwyddyn diwethaf, mae’r ddarpariaeth o gynnwys digidol yng Nghymru hefyd wedi datblygu. Ar hyn o bryd mae swyddogion Casglu’r Tlysau yn gweithio tuag at brosiect newydd Llywodraeth y Cynulliad, Casgliad y Bobl. Bydd Casgliad y Bobl yn adnodd ddigidol rhyngweithiol a dwyieithog fydd yn dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru gan adael i ddefnyddwyr gymryd rhan yn eu hanes a’u cymunedau lleol.
Bydd llawer o ddelweddau Casglu’r Tlysau yn ymddangos ar y wefan newydd hon, yn ogystal â deunydd wedi’i lanlwytho gan ddefnyddwyr. Y gobaith yw y bydd delweddau amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ochr yn ochr â’r hynny a gyfranwyd gan unigolion, myfyrwyr, grwpiau cymunedol ac eraill â diddordeb.
Cadwch olwg ar wefan Casglu’r Tlysau am y diweddaraf am gynnwys a datblygiadau newydd.
