Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Newyddion diweddaraf

Hafan » Latest News
04.08.09 14:41 Oed: 228 days

Penblwydd Hapus Casglu’r Tlysau!

Categori: Culturenet news

 

Yn wythnos gyntaf mis Awst roedd gwefan newydd Casglu’r Tlysau yn dathlu ei phenblwydd yn flwydd oed.  Yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd y llynedd lansiwyd y wefan ar ei newydd wedd gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones.  Hefyd yn bresennol oedd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dafydd Wigley, yr Is-Lywydd Arwel Ellis Owen a’r Llyfrgellydd Andrew Green. 

R’yn ni’n gobeithio fod nodweddion newydd y wefan, y system chwilio ddaearyddol (GIS) yn arbennig, wedi hwyluso mynediad defnyddwyr i drysorau hanesyddol a diwylliannol Cymru.  Erbyn heddiw mae dros 30,000 o ddelweddau ar y wefan a rheiny yn ymwneud â phob cwr o Gymru. 

Yn yr un modd ag y mae Casglu’r Tlysau wedi esblygu dros y flwyddyn diwethaf, mae’r ddarpariaeth o gynnwys digidol yng Nghymru hefyd wedi datblygu.  Ar hyn o bryd mae swyddogion Casglu’r Tlysau yn gweithio tuag at brosiect newydd Llywodraeth y Cynulliad, Casgliad y Bobl.  Bydd Casgliad y Bobl yn adnodd ddigidol rhyngweithiol a dwyieithog fydd yn dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru gan adael i ddefnyddwyr gymryd rhan yn eu hanes a’u cymunedau lleol.

Bydd llawer o ddelweddau Casglu’r Tlysau yn ymddangos ar y wefan newydd hon, yn ogystal â deunydd wedi’i lanlwytho gan ddefnyddwyr.  Y gobaith yw y bydd delweddau amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ochr yn ochr â’r hynny a gyfranwyd gan unigolion, myfyrwyr, grwpiau cymunedol ac eraill â diddordeb. 

Cadwch olwg ar wefan Casglu’r Tlysau am y diweddaraf am gynnwys a datblygiadau newydd.