Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Newyddion diweddaraf

Hafan » Latest News
07.04.09 08:39 Oed: 349 days

Teithiau Culturenet Cymru yn datgelu trysorau

Categori: Culturenet news

 

Mae tîm Culturenet wedi cwblhau cyfres o sioeau ar daith yn ne Cymru'n ddiweddar a chasglu llwyth o eitemau ar gyfer y thema Chwaraeon a Hamdden. Cawsom groeso gan Glwb Rygbi Abertawe, Clwb Criced Casnewydd, Côr Meibion Pontarddulais a Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac roeddent oll yn awyddus i rannu'u hatgofion a'u straeon gyda ni.

Aethom i St Helen's i ddechrau i dreulio diwrnod yn gwrando ar gyn-chwaraewyr, aelodau'r pwyllgor a chefnogwyr ffyddlon Clwb Rygbi Abertawe yn rhannu'u hatgofion am y clwb. Siaradodd cyn-chwaraewyr am eu dyddiau yn St Helen's ac am newidiadau i'r clwb a'r maes dros y blynyddoedd, ac am effaith proffesiynoldeb ar y gêm. Rhannodd cefnogwyr ffyddlon a'r cyn-chwaraewyr David Price a Vivian Davies eu hatgofion o daith ddadleuol y Springboks ym 1969, ac adroddodd Byron Mugford hanes y 'Rebel League' Eingl-gymreig yn nhymor 1995-96.

Yna aethom i Glwb Criced Casnewydd am ddiwrnod i ddathlu pen blwydd y clwb yn 175 oed.  Gwelsom bob mathau o bethau cofiadwy, o gardiau sgorio a ffotograffau i lofnodion enwogion fel Wally Hammond, Emrys Davies a'r cricedwr o Awstralia Shane Warne pan chwaraeodd yn erbyn Casnewydd yn llanc. Roedd cyn-chwaraewyr ac aelodau'r clwb wedi chwilio drwy'r blychau yn eu llofftydd a dod â gwledd o ddeunydd yn adrodd hanes hir y clwb. Wrth gydweithio â Chlwb Criced Morgannwg a phrosiect straeon digidol Prifysgol Morgannwg Tale-Enders, digidodd Culturenet lwyth o ddeunydd a gaiff ei gadw ar-lein am 175 mlynedd nesaf y clwb.

Côr Meibion Pontarddulais oedd ein cyfranogwyr nesaf ac fe ddaeth yr aelodau â chasgliad ardderchog o ddeunydd yn adrodd hanes y côr ers ei ffurfio ym 1960. Roedd ffotograffau o'u cyngherddau, eu teithiau tramor, llwyddiannau eisteddfodol a hyd yn oed rhai o'u cyfeillion enwog yn creu darlun byw o lwyddiant y côr dros yr hanner canrif ddiwethaf.

I orffen, aethom i Sir Benfro am ddiwrnod prysur i ddathlu pen blwydd Clwb Ffermwyr Ifanc y sir yn 70 oed. Daeth aelodau hen a newydd ynghyd i rannu straeon am eu cyfnodau gyda'r CffI ac i gymharu cofnodion am y ffordd mae'r mudiad wedi datblygu dros y degawdau. Cafodd pawb ddiwrnod diddorol iawn, ac fe gadwodd y nifer o ymwelwyr yno staff Culturenet yn brysur! 

Mi fydd yr holl ddeunydd a gasglwyd yn ystod y pedwar diwrnod hwn yn ymddangos ar wefan Archifau Cymunedol Cymru cyn hir.  Ymunwch â phorthiant RSS Casglu'r Tlysau i ddarganfod pryd, ac i gael y newyddion diweddaraf am ein holl brosiectau.
Cliciwch ar y symbol oren yn eich porwr i danysgrifio.