Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Newyddion diweddaraf

Hafan » Latest News
18.02.09 14:13 Oed: 1 yrs

Newyddion diweddaraf Casglu'r Tlysau

Categori: Culturenet news

 

I gael y newyddion diweddaraf am Gasglu’r Tlysau tanysgrifiwch i gyflenwad newyddion RSS newydd y wefan.

Trwy glicio ar yr icon oren yn ym mlwch cyfeiriad eich porwr rhyngrwyd, bydd modd i chi gael y newyddion diweddaraf am brosiect Casglu’r Tlysau yn syth – o ychwanegiadau newydd, i newyddion y prosiect o’r swyddfa.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd cannoedd o ddelweddau newydd yn ymddangos ar y wefan.  Mae ein Swyddogion Prosiect wedi bod wrthi’n ddyfal yn digido casgliadau Undeb Rygbi Cymru, Neuadd Enwogion Cymru a Chlwb Criced Morgannwg ymhlith eraill, a bydd rhain i gyd i'w gweld yn fuan.

Felly, os hoffech chi fod y cyntaf i wybod pan fydd y casgliadau cyffrous yma ar y wefan, ychwanegwch gyflenwad newyddion Casglu’r Tlysau i far offer eich porwr gwe.